Hafod y Llyn Diweddariad prosiect – Hydref 2023

  • Cynhelir y treial mewn tri chae, sef Ffridd Ganol (1.4ha), Ffridd Uchaf (1.4 ha) a Chae Terfyn (1.5 ha). 

Mae’r strategaethau mecanyddol a phori ar draws y lleiniau yn y tri chae i’w gweld isod:

  • Casglwyd data gwaelodlin ar gyfer Soilmentor. Mae ap Soilmentor wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i ddysgu am iechyd pridd eich fferm a bioamrywiaeth yn y cae. Mae Soilmentor yn ei gwneud hi’n hawdd cofnodi canlyniadau profion iechyd pridd syml ar safleoedd sydd wedi’u mapio gan GPS, neu gyda samplu ar draws caeau, a chofnodi bioamrywiaeth rydych chi wedi sylwi arni er mwyn monitro cynnydd eich fferm dros amser.
  • Roedd hyn yn cynnwys rhoi’r fethodoleg VESS ar waith, a oedd yn dangos bod gan y tri chae nodweddion pridd tebyg. Wrth ddadansoddi proffiliau’r pridd, darganfuwyd haen gywasgu amlwg o dan 127mm yn yr holl gaeau.
  • Mae rhywogaethau glaswellt Ffridd Ganol a Ffridd Uchaf yn union debyg i’w gilydd, gyda chyfran uchel o'r glaswelltir yn frwyn/chwyn a glaswelltau annymunol. Ychydig neu ddim rhywogaeth o laswellt oedd gan Gae Terfyn, gyda brwyn yn gorchuddio mwy na 90% o'r cae, a’r 10% arall yn bridd noeth.