Tyddyn Cae Diweddariad ar y Prosiect – Rhagfyr 2023
Ar 11 Rhagfyr 2023, cymerodd Ifan a thîm Tyddyn Cae ran mewn sesiwn cynllunio llaeth gyda Tom. Yn ystod y sesiwn hon, tynnodd Tom sylw at ganlyniadau'r dadansoddiad SWOT i ddatblygu sgiliau gwybodaeth a dealltwriaeth holl aelodau'r tîm mewn perthynas ag iechyd y pwrs / gadair, triniaeth ac effeithlonrwydd. Mae hyn wedi rhoi cyfle i'r tîm ddatblygu a chael gwell boddhad o'u rôl a bod yn barod i gymryd mwy o gyfrifoldebau yn y dyfodol – a’u bod yn gallu gwneud hynny hefyd.