Tanygraig Diweddariad ar y prosiect – Rhagfyr 2023

Cafodd y 32 o loi croes Angus a anwyd yn ystod gwanwyn/haf 2023 eu diddyfnu cyn eu rhoi dan do a’u rhannu’n ddau grŵp rheoli gan y ffermwr a’r swyddog sector. Rhannwyd y grwpiau'n gyfartal yn ôl pwysau, oedran a rhyw.

Mae manylion y ddau grŵp fel a ganlyn:

Grŵp 1 (rheoli) – Bydd y grŵp hwn yn parhau gyda'r system bresennol o fwydo silwair glaswellt a thua 1kg y diwrnod o ddwysfwyd mewn sied. Cânt wedyn eu troi allan i laswellt yn unig yn ystod misoedd haf 2024.

Grŵp 2 – Bydd dwysfwyd yn cael ei dynnu o’r diet yn ystod y cyfnod cyntaf dan do yn y gaeaf. Dim ond silwair glaswellt fydd yn cael ei fwydo (ad lib), a chaiff y gwartheg eu troi allan i laswellt yn unig yn ystod haf 2024.