Moor farm Diweddariad ar y prosiect – Tachwedd 2023

Roedd y rhan fwyaf o'r fuches ar Moor Farm wedi cael prawf NMR GeneEze, heblaw rhai o'r anifeiliaid hŷn yn y fuches. Felly, cafodd cyfanswm o 33 o anifeiliaid eu tagio ym mis Hydref 2023 i gynnal profion genomeg, er mwyn sicrhau bod gan bob buwch yr un tag ar gyfer samplu DNA er mwyn cwblhau’r proffilio genomeg. Anfonwyd samplau drwy'r post i NMR i'w dadansoddi a derbyniodd Moor Farm y data Genomeg ar gyfer y gwartheg o fewn ychydig wythnosau. 

Ar hyn o bryd, mae Moor Farm yn mesur y Cyfrif Celloedd Somatig trwy'r dull traddodiadol o gofnodi llaeth; mae'r fuches gyfan yn cael ei chofnodi bob mis ar gyfer ansawdd, cnwd a Chyfrif Celloedd Somatig gan NMR. Mae hyn yn parhau trwy'r prosiect fel triniaeth reoli bob mis. Ar hyn o bryd, mae Rhys yn derbyn y data o fewn diwrnod neu ddau ar ôl profi trwy e-bost.

Cyflawnwyd y camau canlynol gan Rhys wrth gasglu sampl GenoCells:

  • Mae pecyn sampl GenoCells yn cyrraedd y fferm drwy'r post

  • Ar ôl godro a throi’r llaeth, cymerodd Rhys sampl llaeth o dop y tanc a’i anfon i ffwrdd i labordy NMR ar 24 Hydref

  • Cafwyd canlyniadau o'r labordy yr un mor gyflym â phrofion traddodiadol, a chafwyd rhai y diwrnod canlynol trwy e-bost

  • Defnyddiwyd meddalwedd y Dairy Data Warehouse (DDW) ynghyd â data’r fuches gyfan mewn un dangosfwrdd

Cymerwyd sampl gyfochrog o sampl llaeth swmp ochr yn ochr â'r dull traddodiadol o gofnodi llaeth unigol y fuches, i nodi canlyniadau Cyfrif Celloedd Somatig pob buwch unigol. Mae Ffigur 1 yn dangos y canlyniadau hyd yn hyn.

Ffigur 1. Graff Cyfernod Cydberthynas GenoCells yn erbyn Cofnodi Llaeth