Crickie Farm Diweddariad ar y prosiect – Mawrth 2024

Yn ystod gaeaf 2023/24, cafwyd tymor cyntaf llwyddiannus o bori gwartheg ar fetys porthiant gan ddefnyddio’r had Geronimo, a dyrannwyd pori fel a ganlyn:

Cnwd ar gael  

2 fetys porthiant wedi'u pwyso – pwysau ffres o 2kg ar gyfartaledd. 

6 planhigyn/m

= 12kg (pwysau ffres)/m2 = 120t/ha. 

Roedd y cae yn 2 hectar sy'n cyfateb i gyfanswm o 240t o borthiant pwysau ffres.

Roedd y math o fetys porthiant a dyfwyd yn 14% deunydd sych a ddarparodd 33.6t o ddeunydd sych ar y ddau hectar neu 16.8t o ddeunydd sych fesul hectar.

Y galw o ran pori 

Gwartheg 300kg yn bwyta 2.5% o bwysau'r corff = gofyniad dyddiol o 7.5kg/DM. 

Roedd angen 300kg o ddeunydd sych ar gyfartaledd ar 40 o wartheg bob dydd.

Diwrnodau pori ar gyfartaledd – 

Swm y deunydd sych oedd ei angen ar 40 o wartheg dros 4 mis = 36t. 

Gyda byrnau silwair, bu mwy na 4 mis o bori (neu 120 diwrnod) yn y cae.

(Yn ôl dadansoddiad, roedd y byrnau yn 32% deunydd sych a’r cyfartaledd tybiedig oedd 500kg = 160 kg/DM/bwrn)

Cynllunio ar gyfer gaeaf 2024/25

Dewiswyd cae 4.87 hectar (uwchben y pwll) ar gyfer pori a betys porthiant yn 2024/25 i aeafu 40 o wartheg sy’n tyfu y tu allan, sef cyfartaledd o 300kg mewn pwysau byw, Ffigur 1

Ffigur 1. Lleoliad y cae sy’n rhan o’r treial ar fferm Crickie

Defnyddiwyd yr Had Geronimo, ond ar gyfer y tymor hwn, fe benderfynwyd treialu’r defnydd o hadau wedi’u preimio yn erbyn hadau heb eu preimio. Mae hadau betys porthiant wedi’u preimio (hadau sydd wedi’u hegino, eu sychu a’u pelenni ymlaen llaw) yn galluogi egino cyflymach a all fod yn ddefnyddiol gyda’r tywydd anrhagweladwy.

Mae’r cae wedi cael ei rannu’n ddwy ran gyfartal a bydd un hanner yn cael ei ddrilio â hadau wedi’u preimio a’r hanner arall gyda hadau confensiynol: 

 

Bydd y treial hefyd yn pwyso a mesur effeithiau’r gwasgariad nitrogen ar ansawdd y cnwd, lle bydd hanner y cae yn derbyn 100kgN/ha wrth sefydlu hyd at y cyfnod pori, a’r hanner arall yn derbyn 150kgN/ha.