Crickie Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Ddiwedd mis Ebrill, cynhaliwyd Cyfarfod Fferm cychwynnol gyda Peter Bone i drafod sefyllfa bresennol y fferm o ran rhoi mwynau i anifeiliaid fel atchwanegiad. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â manylion y fferm, categorïau a niferoedd stoc, defnydd o borthiant a gwrtaith, clefydau a nodwyd ar y fferm a defnydd o frechlynnau ynghyd ag amlygu unrhyw faterion penodol a welwyd dros y blynyddoedd.
Paratowyd cynllun i gynnal archwiliad mwynau llawn a fydd yn cynnwys:
- Cymryd samplau o ffynonellau dŵr Ffynnon a Dyfrdwll
- Cymryd samplau gwaed o 4 anifail ym mhob grŵp da byw (Ŵyn, Mamogiaid, Lloi, Heffrod a Buchod)
- Samplu ansawdd y porthiant o’r fferm gyfan – gan gynnwys dadansoddiad o’r mwynau yn y caeau pori, silwair a’r gwndwn llysieuol.
Hyd yma, mae’r holl waith samplu porthiant a gwaed ar gyfer tymor pori’r gwanwyn/haf wedi’i gwblhau ac mae’r canlyniadau’n cael eu prosesu.
Y Camau Nesaf?
Bydd samplau Porthiant a Gwaed yn cael eu cymryd yn yr hydref.