Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect – Tachwedd 2023

Profion Gwaed ar gyfer Ymwrthedd i Lyngyr (10/10/23): Cynhaliwyd profion gwaed cychwynnol i asesu nifer yr achosion o ymwrthedd i lyngyr yn y ddiadell, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr ar gyfer triniaeth wedi'i thargedu a strategaethau rheoli. Ni ddatgelodd y samplau gwaed ac ysgarthion ar ddefaid heb eu trin unrhyw dystiolaeth o haint llyngyr yr iau neu amlygiad iddo. Nid yw’r fferm hon erioed wedi cael diagnosis o lyngyr yr iau ac nid yw triniaethau ar gyfer llyngyr yr iau wedi’u defnyddio o’r blaen. O’r herwydd, ni chredir bod y defaid yn agored i lyngyr yr iau ar hyn o bryd. Bydd protocolau bioddiogelwch yn bwysig i gadw heintiau draw o’r fferm. Gellid defnyddio monitro blynyddol i wirio a yw'r ddiadell yn parhau i fod yn rhydd o haint.

Dadansoddi Porthiant (02/11/23): Cynhaliwyd dadansoddiad trylwyr o silwair sych i bennu ei gynnwys maethol ac i lywio penderfyniadau o ran bwydo, gan sicrhau bod mamogiaid yn cael y maeth gorau posibl.