Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect – Chwefror 2024

Sganio (10/01/24): Roedd canlyniadau sganio yn dangos cynnydd addawol yn nifer y gefeilliaid ond roedd y gyfradd defaid gwag yn uwch na'r disgwyl. Arweiniodd hyn at ganran sganio debyg i flynyddoedd blaenorol. Mae dadansoddiad pellach yn mynd rhagddo i asesu perfformiad mamogiaid unigol a nodi meysydd i'w gwella. 

Archwilio Mamogiaid Gwag ac Asesiadau Iechyd (12/02/24): Cynhaliwyd asesiad o sgôr cyflwr y corff (BCS) a gwiriadau MSD ar famogiaid gwag, gan gynnwys profion am erthyliad ensöotig (enzo) a thocsoplasmosis. Er y gwelwyd gwelliant bychan yn y sgôr cyflwr y corff, efallai y bydd angen ymyriadau pellach i gyrraedd y targed o 3 ym mlwyddyn dau. Datgelodd samplau gwaed o famogiaid gwag ar ôl amser sganio fod gan ddau anifail wrthgyrff i Toxoplasma gondii, parasit sy'n cael ei ollwng gan gathod ac sy'n gallu achosi erthyliad mewn defaid. Gall hyn fod yn un ffactor sy'n cyfrannu at gyfraddau sganio isel yn y ddiadell.