Cwmcowddu Diweddariad ar y prosiect – Rhagfyr 2023

Prif nod y prosiect hwn yw gwella effeithlonrwydd bwydo yn y fuches laeth trwy werthuso a gwneud y mwyaf o’r drefn fwydo bresennol. Gyda buches sy’n lloia drwy’r flwyddyn ac yn anelu at gynhyrchu 9,000 litr fesul buwch, mae gwerthuso a monitro’r dognau’n barhaus yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cnwd mor economaidd â phosibl. Un o'r prif amcanion yw lleihau'r defnydd o ddwysfwyd o 0.39kg/litr i lai na 0.30kg/litr, gan sicrhau bod y dognau ac ansawdd y porthiant sydd ar gael yn cyd-fynd, yn ogystal â monitro statws maeth y fuches gan ddefnyddio proffilio metabolig.

Cynnydd hyd yma:

  • Cwblhawyd dadansoddiad o’r silwair i bennu'r cynnwys maethol a llywio'r broses o lunio dogn
  • Cynhaliwyd proffilio metabolaidd gwaed i asesu statws maeth y fuches
  • Addaswyd dognau’r buchod sych ar ôl i’r proffilio metabolaidd ddangos bod statws egni a phrotein y buchod yn isel