Moor Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Hyd yn hyn, cododd ychydig o broblemau annisgwyl ar Moor Farm fel rhan o’r prosiect. Oherwydd bod y fferm yn rhedeg bloc lloia drwy’r gwanwyn i gyd, roedd tua 300 litr o laeth yn cael ei fwydo i loi yn ystod cyfnod y gwanwyn tan ddechrau mis Gorffennaf. Nid oedd GenoCells ar gael oherwydd fe wnaethom fethu â chasglu’r data cywir o’r tanc bylc ar gynnyrch unigol y buchod a % eu cyfraniad o gelloedd somatig.
Byddwn yn anfon samplau GenoCells yng nghanol y cyfnod llaetha ac yn rhoi cyfartaledd o’r litrau ar draws y fuches i nodi cywirdeb o’i gymharu â’r dull traddodiadol o gofnodi llaeth.