Cilthrew: Diweddariad ar y prosiect - Gorffennaf 2024

Nod y prosiect yw dangos sut y gall defnyddio technoleg i gasglu a storio cofnodion mewn perthynas â ‘Gweithredoedd Sylfaenol’ penodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (fel y’u cynigir ar hyn o bryd) ddarparu data defnyddiol a buddiol i’r ffermwr, yn ogystal ag arbed amser, gan hefyd sicrhau bod y data yn gywir a bod modd ei ddilysu fel a ganlyn;

  • Defnyddio samplu pridd gydag achrediad ISO 
    • a fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni UA3
  • Defnyddio dulliau arsylwi’r ddaear i ganfod meysydd o ddiddordeb, ynghyd â chadarnhau damcaniaethau arolygon caeau drwy ddefnyddio darlleniadau GNSS lleol gyda thystiolaeth ffotograffig â geo-tag.
    • Bydd hyn yn cyfrannu tuag at gyflawni/cofnodi cydymffurfiaeth gydag UA11, UA10, UA4, UA7, UA8 a rheolau’r cynllun mewn perthynas ag isafswm cynefin a gorchudd coed  
      • UA3 – Cynllunio iechyd y pridd
      • UA4 – Cnwd gorchudd aml-rywogaeth
      • UA7 – Cynnal cynefin
      • UA8 Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella
      • UA10 – Pyllau a chrafiadau
      • UA11 – Rheoli gwrychoedd

Mae Cilthrew wedi bod yn gweithio gyda Farmeye i gasglu a chofnodi data at y dibenion uchod.

Data a gasglwyd hyd yn hyn:

  1. Asesiadau VESS - cynhaliwyd 168 asesiad ar draws y fferm
  2. Asesiad pryfed genwair (methodoleg yn Atodiad 1) – cynhaliwyd 168 asesiad ar draws y fferm

Data a gasglwyd hyd yn hyn: 

Enghreifftiau o gyfrif pryfed genwair a chardiau adrodd asesiadau VESS

Gwybodaeth bellach: 

Fideo o asesiadau VESS gyda throslais

Fideo o asesiadau pryfed genwair gyda throslais

Sut i gyfrif pryfed genwair | AHDB