Diweddariad prosiect Wallog - Gorffennaf 2024

Fe wnaeth cyfnod o dywydd poeth yn 2022 amlygu’r pwysau ar gyflenwadau dŵr yn Wallog, gan arwain Dai Evershed, sy’n ffermio yno gyda’i dad, Jack, ochr yn ochr â’i waith yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), i ystyried effeithlonrwydd dŵr y fferm.

Fe wnaeth yr anawsterau i sicrhau cyflenwad dŵr yfed parhaus i dda byw arwain David i ddechrau edrych ar ffyrdd o arbed dŵr lle y bo’n bosibl a’i ddefnyddio’n fwy effeithlon wrth iddo symud o gwmpas y fferm.

Mae’n gobeithio y bydd yr arbedion effeithlonrwydd yn dod drwy leihau eu defnydd o drydan; mae pympiau trydan yn cael eu defnyddio i symud dŵr o ffynhonnau i gronfeydd cyn iddo gael ei symud gyda disgyrchiant i ble bynnag fo’i angen. Trwy bwmpio’r union gyfaint sydd ei angen, a thrwy ganfod unrhyw ollyngiadau cyn gynted ag y byddant yn digwydd, dylai fod yn bosibl defnyddio llai o drydan.

Gyda chymorth gan ei gydweithiwr, Jason Brook, llwyddodd Dai i dderbyn grant wedi’i ariannu 40% gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn porth LoRaWAN a phum synhwyrydd, i fonitro defnydd o ddŵr ac ynni, ac i ganfod a rhwystro unrhyw ollyngiadau cyn gynted â phosibl.

Mae’r prosiect yn edrych ar fonitro lefelau dŵr mewn gwahanol gronfeydd ynghyd â chyfraddau llif dŵr, ac mae’r wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch pryd mae angen pwmpio. Mae’r system yn cael ei dylunio i fod yn addas ar gyfer y dyfodol, gyda’r nod yn y pen draw o wneud y broses o bwmpio dŵr yn awtomatig a defnyddio ynni a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltaig (PV) a osodwyd yn ddiweddar, a allai fod yn lasbrint ar gyfer ffermydd eraill.

Ar hyn o bryd, mae argaeledd dŵr yn rhwystr sylweddol sy’n atal y fferm rhag gallu trosi i system bori cylchdro. Os byddant yn llwyddo i sefydlu’r system, bydd David yn ceisio sefydlu system bori cylchdro sy’n cael ei dylunio ar hyn o bryd gyda Precision Grazing, drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.

Gellir gweld y prif lwybrau cyflenwi dŵr, y ffynhonnau a’r cronfeydd yn ffigur 1

Ffigur 1. Map yn dangos prif lwybrau cyflenwadau dŵr, ffynhonnau a chronfeydd

 

Fersiwn amgen o'r map (PDF)