Rhaglen Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio – Meini Prawf Cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen, rhaid i'ch diadell fodloni'r meini prawf cymhwysedd isod. Ni fydd unrhyw fridiau nad ydynt wedi'u rhestru isod yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon.

Bridiau/Mathau o Ddefaid Cymwys

HAEN 1

HAEN 2

Bridiau – yn cynnwys:

Bridiau – yn cynnwys:

Defaid Mynydd Cymreig (math caled), Defaid Mynydd Cymreig gan gynnwys: Penwyn Llanymddyfri, Defaid Mynydd Cymreig wedi’u gwella, Defaid Cymreig Talybont, Defaid Cymreig Tregaron, Defaid Mynydd De Cymru, Defaid Mynydd Cymreig Morgannwg, Defaid Duon Mynydd Cymreig, Defaid Torddu/Torwen Cymreig, Defaid Mynydd Balwen Cymreig. Penfrith Beulah Cymreig (gwahanol fathau o fewn), Cheviot Tiroedd y Gogledd (mathau Mynydd a Pharc) Cheviot Mynydd Brycheiniog

 

Lleyn, Romney, Wyneblas Caerlŷr, Charmoise Hill 

Isafswm Maint y Ddiadell

Isafswm maint y ddiadell: 50 o famogiaid bridio

Isafswm maint y ddiadell: 15 o famogiaid bridio

Nodiadau pwysig:

  • Rhaid i bob diadell fod yn frîd pur (ni chaniateir croesfridiau/croesfridio)
  • A fyddech cystal â chynnwys cymaint o fanylion â phosibl ar y ffurflen gais ynghylch nifer y ddiadell.