Cain Owen
Cafodd Cain Owen (18) sy’n byw ar y fferm bîff a defaid teuluol yn Llanerchymeydd ar Ynys Môn ei dewis i sylwebu yn y prif gylch fel rhan o arlwy S4C o’r Ffair Aeaf eleni, ac mae’n dweud mai'r hyfforddiant cyfryngau a dderbyniodd fel aelod o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth sy'n gyfrifol am hynny.
“Roedd yr hyfforddiant yn gyflwyniad gwych i fyd gohebu ac roedd hi’n fraint i gael fy ngwahodd i roi fy sgiliau newydd ar waith yn y Ffair Aeaf. Rhoddodd gyfle gwych i mi ychwanegu at fy CV ac felly gobeithiaf y bydd yn arwain at gyfleoedd newydd ar gyfer profiad gwaith yn y cyfryngau amaethyddol yng Nghymru.
“Ar hyn o bryd, rwy’n astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon yn ogystal â chynnig help llaw ar y fferm yn ystod pob munud sbâr. Diolch i’r Academi Amaeth, rwy’n bendant yn fwy meddwl agored ynglŷn â’m gyrfa ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r Academi wedi fy nghyflwyno i rwydwaith newydd o bobl a phob un ohonynt yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd arbennig, ac rwy’n hyderus y byddwn yn cadw cysylltiad i barhau i gynnig cefnogaeth i’n gilydd.”