Mae Suzanne Rowe yn Uwch Ymchwilydd gydag AgResearch yn Seland Newydd, ac yn arbenigwr byd ar fridio defaid ag ôl troed carbon isel. Bydd Suzanne yn amlinellu cefndir y gwaith sy'n digwydd yn Seland Newydd a'r hanes y tu ôl i ddatblygu'r dechnoleg. Bydd hi hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu sefyllfa bresennol a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.