Diweddariad ar Brosiect Crickie - Tachwedd 2024
Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?
● Rhoddwyd ail wasgariad o wrtaith Humber Palmers 26-2-0-30.5 S (50kg N/ha) yng nghanol mis Gorffennaf ar gyfradd o 200kg/ha.
● Defnyddiwyd chwistrelli yng nghanol mis Gorffennaf i reoli chwyn llydanddail, pryfed gleision a chwistrell o elfennau hybrin ar y dail (gan gynnwys Boron a Sodium).
● Rhoddwyd trydydd gwasgariad o Humber Palmers 26-2-0-30.5 S (50kg N/ha) ar Leiniau 3 a 4.
● Cafodd pob llain hefyd eu trin rhag llwydni.
Roedd modd gweld gwahaniaethau amlwg yn sefydliad yr had wedi’i breimio o’i gymharu â’r had heb ei breimio drwy gydol y tymor tyfu. Un o brif nodweddion yr had wedi’i breimio oedd gwell eginiad, ac mae’n bendant bod hynny wedi digwydd yma. Wrth agosáu at fis Medi, nid oedd y gwahaniaeth mor arwyddocaol.
Tabl 1. Canlyniadau cynnyrch mis Tachwedd 2024
Triniaeth | Cynnyrch ffres a glân - Gwreiddiau
(t/ha) | Cynnyrch deunydd sych - Gwreiddiau
(t/ha) | Cynnyrch ffres a glân – Pennau (t/ha) | Cynnyrch deunydd sych – Pennau (t/ha) | Cyfanswm cynnyrch DM /ha (t/ha) |
Nitrogen + had wedi’i breimio | 109.9 | 18.13 | 56.0 | 6.16 | 24.29 |
Nitrogen + had heb ei breimio | 98.67 | 16.28 | 65.3 | 7.19 | 23.47 |
Wedi’i breimio yn unig | 91.37 | 15.08 | 52.4 | 5.76 | 20.84 |
Heb ei breimio yn unig | 80.58 | 13.29 | 58.6 | 6.45 | 19.74 |
Cynhaliwyd dadansoddiad o gynnyrch y lleiniau ar ddechrau mis Tachwedd cyn i’r gwartheg ddechrau pori. Gellir gweld y canlyniadau yn Nhabl 1.
Fel y gwelir yn nhabl 1, mantais amlwg o wasgaru Nitrogen ar ddiwedd y tymor a mantais had wedi’i breimio dros had heb ei breimio gyda’r lleiniau Nitrogen ac wedi’i breimio ar y brig gyda chyfanswm cynnyrch deunydd sych fesul ha o 24.29t/ha.
Gan ddechrau ar 9 Tachwedd, bu 25 o wartheg (yn pwyso 400kg ar gyfartaledd) yn trosi’n raddol i’r cnwd dros gyfnod o oddeutu 3 wythnos. Roedd y cyfnod pontio’n bwysig er mwyn osgoi problemau megis asidosis.
Ffigur 3. Gwartheg yn pori’r betys porthiant.
Camau nesaf?
- Bydd set arall o samplau’n cael eu casglu ym mis Rhagfyr er mwyn cynnal dadansoddiad o gynnyrch deunydd sych a phorthiant. Disgwylir y bydd y tywydd oer a’r eira yn effeithio ar y canlyniadau.
- Bydd glendid y gwartheg yn cael ei fonitro trwy gydol y cyfnod pori.