Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect - Rhagfyr 2024
Beth sydd wedi cael ei wneud hyn yn hyn?
- Dadansoddiad gwaed a mwynau
- Ymweliad gan filfeddyg i gasglu samplau gwaed gan famogiaid ac ŵyn benyw cyfnewid i gynnal dadansoddiad mwynau.
- Mae cynllun bolws wedi cael ei weithredu yn seiliedig ar argymhellion y milfeddyg i fynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd.
Mae’r prif ddiffygion a nodwyd yn y canlyniadau gwaed a’r iau fel a ganlyn:
- Seleniwm: Ceir rhywfaint o dystiolaeth o ddiffyg cronig, ond mae lefelau presennol yn ddigonol. Felly gallai rhoi ychwanegion fod o fudd, yn enwedig ar gyfer mamogiaid cyn hyrdda ac yn ystod beichiogrwydd.
- Copr: Ceir rhywfaint o dystiolaeth o ddiffyg cronig, gyda lefelau isel mewn rhai defaid. Mae’n bosibl bod rhywfaint o ataliad molybdenwm hefyd. Gallai rhoi ychwanegion i famogiaid cyn hyrdda ac yn ystod beichiogrwydd helpu i fynd i’r afael â hyn.
- Ïodin: Crynodiad isel yn y gwaed ac ar y glaswellt. Mae rhoi ychwanegion yn debygol o fod o fudd, yn enwedig i famogiaid cyn hyrdda ac yn ystod beichiogrwydd.
Y tri maetholyn hyn - seleniwm, copr, ac ïodin - yw’r prif ddiffygion sydd angen sylw o fewn y ddiadell.
- Rheoli Parasitiaid
- Monitro baich llyngyr yn barhaus drwy gynnal profion cyfrif wyau ysgarthol (FEC) gan ddefnyddio FECpak gan Sarah ar fferm Glyn Arthur.
- Roedd profion seroleg llyngyr yr iau ar ŵyn benyw cyfnewid yn dangos ychydig iawn o lyngyr yr iau neu ddim o gwbl yn y ddiadell, gan awgrymu arferion rheoli llyngyr da.
- Sgorio Cyflwr Corff a Ffrwythlondeb Hyrddod
- Cafodd sgôr cyflwr corff y mamogiaid ei gwblhau cyn eu troi at yr hwrdd i sicrhau’r perfformiad gorau posibl.
- Cynhaliwyd profion ffrwythlondeb ar yr hyrddod yn ddiweddar i ganfod hyrddod ffrwythlon sy’n addas ar gyfer bridio.
- Rheoli’r Borfa a Phorthiant
- Sicrhau bod y ddiadell yn parhau i bori ar system bori cylchdro i gynnal ansawdd y borfa a gwella maeth mamogiaid.
- Dadansoddi gwywair a gwair i baratoi dognau cytbwys ar gyfer y gaeaf wedi’i deilwra i ofynion y ddiadell.
Camau Nesaf
- Monitro effeithiolrwydd y cynllun bolws ac addasu fel bo’r angen.
- Defnyddio data monitro llyngyr a llyngyr yr iau i fireinio strategaethau rheoli parasitiaid.
- Ymgorffori’r dadansoddiad porthiant i gynlluniau bwydo dros y gaeaf i sicrhau’r perfformiad gorau posibl gan famogiaid ac ŵyn.
- Parhau gyda’r system bori cylchdro ac asesu ei effaith ar gynhyrchiant y ddiadell a chyflwr y borfa.