Awel y Grug Diweddariad ar prosiect – Ionawr 2025

Cynhyrchu silwair 2024

Cafodd y lleiniau meillion coch a meillion gwyn eu cau ar gyfer silwair ar 06.05.24 ar ôl i famogiaid ac ŵyn eu pori. Torrwyd y lleiniau ar 10.6.24 a’u byrnu ar 13.6.24. Cynhyrchodd y ddau wndwn ychydig yn llai na 18.5 o fyrnau fesul hectar. Cafodd y lleiniau eu torri eilwaith ar 27.07.24 a’u byrnu ar 28.07.24, gyda chynnyrch cyfartalog o 7.5 o fyrnau fesul hectar ar y lleiniau meillion coch a 12 o fyrnau fesul hectar ar y lleiniau meillion gwyn.

Torrwyd y llain meillion coch am y trydydd tro ar 17.09.24 a’i fyrnu ar 18.09.24 gyda chynnyrch cyfartalog o 9 o fyrnau fesul hectar. 

Oherwydd y tymor tyfu oer a gwlyb, ni lwyddwyd i gyrraedd y targed o ran dyddiadau torri. Fe wnaeth yr amodau hefyd leihau cyfraddau twf a chynhyrchiant nitrogen o’r meillion. Effeithiodd hyn ar gynnyrch ac ansawdd y toriad cyntaf a’r ail doriad o feillion coch.

Canlyniadau’r silwair

 

% Deunydd Sych

Gwerth D

Egni Metaboladwy

% Protein Crai

pH

MC 1

39.5

65

10.6

11.9

4.7

MC 2

33.1

71

11.5

13.1

4.4

MC 3

24.2

69

11.2

16.7

4.3

MG 1

45.8

66

10.8

11.8

4.7

MG 2

31.5

70

11.3

13.0

4.6

Porfa barhaol

73.4

59

9.4

13.4

Amherthnasol

Cynhaliwyd dadansoddiad silwair ar y byrnau a gynaeafwyd o’r borfa barhaol ar 19.06.24, a dorrwyd ar 17.06.24 o’r ‘Cae Uwchben y Tŷ, sydd wedi’i leoli’n agos iawn at y lleiniau meillion coch a meillion gwyn.

Pori’r Hydref 2024

Cyflwynwyd ŵyn i’r llain meillion gwyn heb unrhyw ddwysfwyd ychwanegol. Rhannwyd y llain yn chwe phadog bori gyda’r ŵyn yn cael eu symud mewn cylchdro bob 4 i 5 diwrnod.

Er nad oedd perfformiad yr ŵyn yn cael ei gofnodi, ceir tystiolaeth anecdotaidd fod y system wedi gweithio’n dda, gyda chynnydd pwysau da a nifer y dyddiau hyd ar eu gwerthu’n is nag ar borfeydd parhaol eraill.

Fe wnaeth y trydydd toriad oedi’r gallu i bori’r meillion coch. Yn anffodus, cafwyd cyfnod o dywydd gwlyb a phenderfynwyd gorffwys y lleiniau i osgoi difrod. Bydd y lleiniau meillion gwyn yn parhau i gael eu pori tan ddiwedd mis Rhagfyr. Mae uchder y borfa weddilliol wedi cael ei gynyddu i adael mwy o orchudd i atal difrod i’r borfa.

Arbrofion porthi dros y gaeaf

Cyn cyfnod ŵyna 2025, bydd tri dogn y gaeaf ar wahân yn cael eu llunio i ddarparu’r un faint o egni a phrotein ar gyfer pob grŵp triniaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad NIRS. Bydd y grwpiau’n cael eu cofnodi i asesu perfformiad pob dogn.