Ty Coch Diweddariad ar y prosiect - Terfynol

Canlyniadau allweddol

  1. Roedd mamogiaid a oedd yn ŵyna gyda’r sgôr cyflwr corff delfrydol (BCS 3) ychydig yn fwy tebygol o gynhyrchu colostrwm o ansawdd uwch na mamogiaid teneuach.
  2. Roedd ŵyn a nodwyd eu bod yn llawn yn dangos sgôr Brix uwch nag ŵyn gwag, gan awgrymu bod eu cymeriant colostrwm yn uwch.
  3. Roedd sgôr Brix ŵyn o dripledi yn is na sgôr gefeilliaid, ac felly roedd eu cymeriant colostrwm yn is.
  4. Bu farw 40% o’r ŵyn a dderbyniodd golostrwm annigonol o’i gymharu â 4% o’r rhai a oedd wedi derbyn colostrwm digonol.
  5. Roedd nifer o’r ŵyn a fu farw’n dangos arwyddion o niwmonia.
  6. Nid oedd cymeriant colostrwm i’w weld yn cael effaith bendant ar enillion pwysau byw dyddiol cyffredinol y grŵp, er bod yr ŵyn gyda’r sgorau Brix uchaf yn gyffredinol wedi tyfu’n well 8 wythnos ar ôl diddyfnu. 
     

Cefndir

Yn aml, mae llwyddiant menter ffermio defaid yn cael ei fesur ar sail nifer yr ŵyn a werthir fesul mamog. Mae sawl ffactor yn effeithio ar hyn - gan ddechrau gyda chanran sganio. Bydd colledion ŵyn rhwng genedigaeth a gwerthiant yn lleihau’r ffigwr hwn. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng Tŷ Coch a llawer o ffermydd defaid eraill gan fod nifer o ŵyn yn cael eu colli o’r cyfnod sganio hyd at werthiant. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae nifer o welliannau wedi cael eu gwneud i leihau’r colledion hyn, gan gynnwys defnyddio brechlynnau erthylu, gwella maeth mamogiaid a rheoli Maedi Visna o fewn y ddiadell. Fodd bynnag, mae’r ffigwr yn dal i fod yn uwch na tharged y diwydiant o 10%, gyda mwyafrif y colledion bellach yn digwydd ar ôl eu troi allan. Amheuwyd fod hyn yn rhannol oherwydd cymeriant colostrwm isel mewn ŵyn.

Diben y gwaith

Dyluniwyd y prosiect colostrwm nid yn unig i asesu ansawdd y colostrwm sydd ar gael ar gyfer yr ŵyn, ond hefyd er mwyn edrych ar nifer yr ŵyn sy’n derbyn colostrwm digonol. Roedd y prosiect yn gallu dilyn carfan o ŵyn o enedigaeth hyd at 8 wythnos oed i weld a oedd cysylltiad clir rhwng cymeriant colostrwm a chanlyniadau ŵyn unigol.

Beth gafodd ei wneud

Dechreuodd y prosiect trwy lunio cynllun diet ar gyfer mamogiaid cyfeb i’w fwydo o 6 wythnos cyn dechrau disgwyliedig y cyfnod ŵyna. Er mwyn cadarnhau bod y diet hwn yn bodloni anghenion mamogiaid cyfeb, casglwyd samplau gwaed gan y mamogiaid bythefnos cyn dechrau disgwyliedig y cyfnod ŵyna i sicrhau eu bod yn derbyn digon o brotein ac egni.

Trwy ddefnyddio nodau coch, roedd modd rhagweld yn gywir ym mha wythnos y byddai’r cyfnod ŵyna yn ei anterth. Yn ystod yr wythnos honno, casglwyd data gan 80 o efeilliaid a thripledi ar ddiwrnod eu genedigaeth. Roedd y data a gasglwyd yn cynnwys:

  • Ffactorau’r famog: Sgôr cyflwr corff y famog, oedran bras, ansawdd colostrwm gan ddefnyddio Reffractomedr Brix, rhwyddineb stripio, ac unrhyw nodweddion eraill yn ymwneud â’r pwrs/cadair.
  • Ffactorau’r ŵyn: pwysau ar enedigaeth, asesiad o lawnder pob oen, ac unrhyw wybodaeth arall berthnasol am iechyd, megis Ceg Ddyfrllyd neu entropi.

Ail aseswyd yr un ŵyn 24 awr yn ddiweddarach i asesu cymeriant colostrwm trwy fesur lefel protein mewn sampl gwaed. Defnyddiwyd Reffractomedr Brix ar gyfer y profion hyn yn labordy’r practis milfeddygol. Defnyddiwyd tagiau rheoli bychain i nodi’r ŵyn yn yr astudiaeth.

Cynhaliwyd archwiliad post mortem ar unrhyw ŵyn wedi’u tagio a fu farw, a chafodd yr ŵyn a oroesodd eu pwyso ar ôl 8 wythnos a gwnaed asesiad o gynnydd pwysau byw dyddiol unigol. Cafodd mwyafrif yr ŵyn hefyd eu pwyso ar ôl pesgi neu ddiddyfnu.
 

Canlyniadau

Nid yw canlyniadau’r prosiect yn syndod. Maent yn dangos bod mamogiaid sydd yn y cyflwr gorau posibl wrth ŵyna yn debygol o gynhyrchu colostrwm o ansawdd uwch, ond mae’n rhaid i’r colostrwm hwnnw gyrraedd yr ŵyn; mae angen rhoi colostrwm ychwanegol i’r rhai sydd heb ddysgu sugno neu i dripledi sy’n cystadlu am golostrwm. Roedd ŵyn nad oedd yn derbyn digon o golostrwm ddeg gwaith yn fwy tebygol o farw nag ŵyn a oedd wedi cael eu bwydo’n ddigonol, ac roedd yr effaith hon yn parhau drwy gydol eu bywydau.

Roedd cyfanswm yr ŵyn a fagwyd fesul mamog yn 138% o’i gymharu â chanran sganio o 163%, gan gynrychioli colled o 15.5%, a oedd yn ffigwr uchel ar gyfer y ddiadell. Yn naturiol, y dymuniad yw lleihau’r colledion hyn i lai na 10% yn y dyfodol.

Roedd cyfrifiadau’n defnyddio gwerth posibl yr ŵyn a fu farw yn ystod y prosiect yn dangos y byddai targedu cymorth ychwanegol i wirio ac ychwanegu colostrwm yn ystod y 24 awr gyntaf wedi bod o fudd mawr. Byddai sicrhau lleihad o 5.5% mewn colledion cyfwerth â  rhwng £2000 a £2500, a fyddai’n talu am dros 150 awr o lafur achlysurol dros y tymor nesaf.

Bwriedir parhau gyda’r prosiect yn 2025 i ddangos effaith mwy o sylw i fanylder ar yn y llociau ŵyna ar ganlyniadau’r ŵyn.
 

Canllaw 5 cam i’w rhoi ar waith ar y fferm

  1. Sgorio cyflwr corff mamogiaid yn rheolaidd i ganfod unrhyw famogiaid a oedd yn is na’r targed.
  2. Dadansoddi porthiant i sefydlu cynllun diet priodol ar gyfer y ddiadell.
  3. Samplu gwaed mamogiaid bythefnos cyn ŵyna i gwblhau proffil metabolaidd.
  4. Sicrhau bod yr holl ŵyn yn derbyn colostrwm digonol o fewn 24 awr gyntaf eu bywydau drwy asesu llawnder yr ystumog ac ategu lle bo angen.
  5. Mae hylendid hefyd yn ffactor allweddol ar gyfer goroesiad ŵyn yn y sied ŵyna,  o ddeunydd gorwedd glân hyd at offer bwydo di-haint.