Ty Coch Diweddariad ar y prosiect - Rhagfyr 2025

Cae prosiect india-corn

  • Torrwyd yr india-corn ar 23 Hydref
  • Fel y gwelir yn nhabl 1 isod, y cnwd mwyaf cynhyrchiol oedd y Ceirch y Gwanwyn a’r Meillion Coch a’r cnwd lleiaf cynhyrchiol oedd y llain heb ei thrin. 

Tabl 1. Cynnyrch ffres (tunnell fesul hectar) o’r gwahanol leiniau.

Amrywiaeth

Cynnyrch ffres (t/ha)

Plot 1- Libonus Westerwold a Rhygwellt Eidalaidd Abys 

38.7

Plot 2- Heb driniaeth

30.1

Plot 3- Ceirch y Gwanwyn a Meillion Coch

52.3

Plot 4- Meillion Coch Rhededog Cryf a Rhygwellt Eidalaidd Abys (Diploid)

38.4

Plot 5- Rêp Porthiant Gorilla, Rhygwellt Eidalaidd Diploid a Rhygwellt Eidalaidd Tetraploid

42.1

Plot 6- Ceirch y Gwanwyn a Rêp Porthiant

37.3

Beth nesaf?

  • Bydd y pridd yn cael ei asesu ymhellach ym mis Ionawr i  gyflawni’r prawf N-min ac asesiadau Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) ynghyd ag archwiliadau gweledol. 

Cae Cnydau Gorchudd y prosiect

  • Haidd oedd y cnwd blaenorol.
  • Profwyd y cae i asesu lefelau nitrogen a deunydd organig yn y pridd. Roedd y profion yn dangos lefelau nitrogen da yn y pridd cyn plannu’r cnwd ac roedd y deunydd organig dros 4%. 
  • Cafodd y lleiniau eu llyfnu ar 23 Awst gydag oged pŵer, cafodd yr hadau eu gwasgaru gan ddefnyddio peiriant chwistrellu gwrtaith, cyn defnyddio oged pŵer i blannu’r hadau.
  • Roedd y cnydau’n dechrau ymddangos o fewn wythnos ac maent wedi parhau i dyfu’n dda. 

 

Beth nesaf?

Bydd y dadansoddiad maetholion, biomas a samplau N-min yn cael eu hailadrodd ym mis Ionawr. Er bod lefelau nitrogen a deunydd organig yn dda cyn plannu, mae Nitrogen yn gallu cael ei golli dros y gaeaf o ganlyniad i lawiad, ond gan fod rhai o’r lleiniau’n cynnwys rhywogaethau sy’n sefydlogi Nitrogen, bydd yn ddiddorol gweld a yw’r rhain wedi gwneud gwahaniaeth. 

Ffigur 1- Cnydau gorchudd mis Tachwedd 2024