Brynllech Diweddariad ar y Prosiect - Rhagfyr 2024
Allbynnau’r system
- Mae data megis iechyd a ffrwythlondeb yn cael ei fonitro
- Defnyddiwyd gwybodaeth am gnoi cil a mesurau eraill i fonitro’r newidiadau i’r diet yn y siediau, ac ni welwyd unrhyw broblemau
Adborth y Ffermwr
- Roedd Rhodri yn ystyried y broses o osod yr offer yn ddigon syml, gyda “chymorth ardderchog” gan y cwmni cyflenwi
- Mae diffyg signal cludwr ffôn symudol dibynadwy, ynghyd â’r tir garw wedi arwain at golli cysylltiad ar adegau, felly mae Rhodri yn awyddus i archwilio ffyrdd o wella hyn ac osgoi costau misol sim data ar gyfer rhedeg yr uned reoli symudol.
Camau nesaf
- Comisiynwyd Dyfed Telecom i roi cyngor ynglŷn â sut i oresgyn problemau diffyg signal dibynadwy a rhoddwyd argymhelliad i ymestyn cyswllt band eang o’r tŷ fferm (uchder o 275m / 902 troedfedd) i’r sied wartheg (uchder o 287m / 942 troedfedd) ac i ran uchaf y cae y tu ôl i’r sied (uchder o 334m / 1096 troedfedd), lle byddai’r uned reoli Sensehub yn gallu casglu data o dagiau’r anifeiliaid ar draws y rhan helaeth o’r fferm. Byddai hyn yn sicrhau bod signal yn cyrraedd pob un o’r caeau lle mae’r gwartheg yn pori ac yn y sied, a gwaredu’r angen i dalu am gerdyn sim bob mis. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy;
- Gladdu oddeutu 400m o biben blastig las 25mm o ddiamedr gan ddefnyddio dull sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar y tir
- Bwydo oddeutu 400m o gebl ffibr wedi’i derfynu’n barod drwy’r peipiau sydd eisoes wedi’u claddu
- Gosod trawsnewidyddion ffibr ether-rwyd yn y sied ar ben y bryn i alluogi cyswllt rhyngrwyd ffisegol yn y ddau leoliad
Gosod pwynt mynediad WiFi ar do’r sied i ddarparu mynediad WiFi ar rannau gwaelod y fferm sydd mewn mannau heb signal ffôn symudol