Bugeilus Fawr Diweddariad prosiect – Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Cynyddu cynnyrch cnydau drwy wneud y defnydd gorau o dechnegau gwrteithio a hau.
  • Defnyddio 25% yn llai o blaladdwyr a gwrtaith, gan wella iechyd y pridd a’r amgylchedd a lleihau dŵr ffo.
  • 20% yn llai o oriau llafur drwy ddefnyddio dulliau hau a drilio effeithlon.

Cefndir: Mae Bugeilus Fawr, sy’n berchen i’r Meistri Evans, yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant a chynaliadwyedd ar draws 30 erw o haidd y gwanwyn, 12 erw o haidd y gaeaf, a chymysgedd rhygwellt parhaol a meillion coch. Defnyddiodd y fferm dechnegau aredig confensiynol i leihau baich chwyn wrth sefydlu’r haidd a drilio uniongyrchol ar gyfer y gymysgedd o laswellt a meillion, gyda’r nod o gynyddu cynnyrch, lleihau costau mewnbynnau a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol. Roedd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gynlluniau gwrtaith wedi’u teilwra, rheoli chwyn a rheoli plâu i sicrhau iechyd a chynnyrch cnydau.

Diben y gwaith:

  • Cynyddu cynnyrch haidd y gaeaf a’r gwanwyn drwy wneud y gorau o dechnegau gwrteithio a hau
  • Llwyddo i sefydlu cymysgedd rhygwellt parhaol a meillion coch gan amharu cyn lleied â phosibl ar y pridd.
  • Gwella effeithlonrwydd adnoddau drwy roi arferion iechyd y pridd manwl gywir ar waith, rheoli plâu a rheolaeth chwyn wedi’i dargedu.

Yr hyn a wnaed:

  • Aredig a thechnegau hau cyfunol ar gyfer haidd gan integreiddio gwasgariad gwrtaith.
  • Casglwyd samplau pridd i greu cynlluniau gwrtaith wedi’u teilwra gan ddefnyddio canllawiau RB209 AHDB.
  • Drilio’r gymysgedd rhygwellt parhaol a meillion coch yn uniongyrchol, gan darfu llai ar y pridd a gwella’r gallu i gadw dŵr.
  • Gwasgaru chwynladdwyr cyn hau i reoli chwyn lluosflwydd megis dail tafol a gwlydd.
  • Defnyddio trapiau gwlithod i fonitro poblogaethau a gwasgaru pryfleiddiaid pan fo’r trothwy pryfed gleision ar gyfer BYDV yn cael ei groesi.
  • Sicrhau bod unrhyw ddefnydd o gemegau yn cael ei arwain gan arbenigwyr achrededig FACTS a BASIS.

Canlyniadau:

  • Lleihau’r defnydd o wrtaith a phlaladdwyr: Lleihad o 25% yn y gwrtaith a’r plaladdwyr a ddefnyddiwyd o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol drwy deilwra gwasgariad.
  • Rheoli chwyn: Wedi llwyddo i leihau pwysau dail dafol, gwlydd a mwstard gwyllt, gan wella sefydliad y cnwd.
  • Rheoli gwlithod: Defnyddio trapiau gwlithod a  molysgladdwyr yn amserol i leihau difrod sylweddol i’r cnwd.
  • Lleihau risg BYDV: Roedd monitro pryfed gleision yn helpu i leihau risgiau BYDV mewn haidd y gaeaf.
  • Effeithlonrwydd llafur: Lleihad o 20% mewn oriau llafur drwy ddefnyddio dulliau hau cyfunol a drilio uniongyrchol.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  • Samplu pridd i asesu lefelau maetholion cyn plannu.
  • Defnyddio Argymhellion Gwrtaith RB209 AHDB i greu cynlluniau gwrtaith ar gyfer cnydau penodol.
  • Defnyddio technegau aredig confensiynol a hau cyfunol ar gyfer cnydau haidd.
  • Drilio cymysgeddau rhygwellt parhaol a meillion coch yn uniongyrchol er mwyn cadw mwy o leithder a gwella sefydliad eginblanhigion.
  • Defnyddio chwynladdwyr wedi’u targedu a thrapiau gwlithod i reoli pwysau gan chwyn a phlâu yn effeithiol.