Tyddyn Cae Diweddariad ar y Prosiect - Tachwedd 2024
Canlyniadau Targed ar gyfer y Prosiect:
- Cynyddu cyfran yr heffrod sy’n lloia o fewn y pedair wythnos gyntaf.
- Rhoi strategaethau effeithiol ar waith i ganfod gwartheg yn gofyn tarw er mwyn gwella cyfraddau ffrwythloni a beichiogi.
- Sicrhau’r iechyd gorau posibl yn y fuches drwy gynnal adolygiad manwl o brotocolau brechu a rheoli clefydau.
Cynllun gweithredu / Camau nesaf:
Newidiadau i’r Cynllun Paru ar gyfer Heffrod:
- Rhannu heffrod yn dri grŵp yn seiliedig ar amseriad troi at y tarw:
- Grŵp A: Troi at y tarw yn y 7 niwrnod yn arwain at ddechrau paru disgwyliedig (PSM); bydd y rhain yn cael eu gwahanu a’u grwpio gyda’i gilydd. Disgwyliad: ~33% o heffrod yn gofyn tarw yn wythnos -1, barod i droi at y tarw yn wythnos 3.
- Grŵp B: Gofyn tarw yn yr wythnos gyntaf. Disgwyliad: ~33% o heffrod.
- Grŵp C: Gofyn tarw yn yr ail wythnos. Disgwyliad: ~33% o heffrod.
- Ar ddiwrnod 6, bydd Grŵp A yn cael eu brechu gyda prostaglandin i sbarduno’r cyfnod gofyn tarw – dylid disgwyl hyn o fewn 2-5 diwrnod ar ôl eu brechu. Paru pan fo arwyddion o ofyn tarw yn unig.
Nod: Paru pob heffer o fewn cyfnod o bythefnos yn hytrach na’r tair wythnos arferol.