Cilthrew Diweddariad ar y prosiect - Ionawr 2025
Cefndir a chrynodeb
Mae argaeledd ac ansawdd porthiant yn dilyn cyfnodau hir o dywydd sych yn ffactor cyfyngol sylweddol i ffermwyr tir pori. O ganlyniad i’w strwythurau a’u dyfnder gwreiddio amrywiol, mae gwndwn aml-rywogaeth wedi dangos potensial ar gyfer gallu gwrthsefyll sychder yn well o’i gymharu â gwndwn confensiynol. Bu’r prosiect hwn dan arweiniad y ffermwr yn edrych ar argaeledd ac ansawdd llystyfiant ac ansawdd gwndwn cymysg drwy gydol tymor pori 2024.
Roedd triniaethau’n cynnwys tri gwndwn cymysg amrywiol, 1) llain reoli rhygwellt parhaol a meillion (PRG+C), 2) 2 godlys a 3 llysieuyn (L+H) a 3) gwndwn aml-rywogaeth (MS, 5 rhywogaeth o laswellt, 3 chodlys a 3 llysieuyn) (Tabl 1). Cafodd y lleiniau eu sefydlu ym mis Medi 2023 a’u pori’n ysgafn gan famogiaid gydag ŵyn at ddibenion rheoli ym mis Mai 2024, cyn eu pori gan ŵyn tew rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2024. Cafodd yr holl stoc eu cau allan ym mis Rhagfyr 2024 a chafodd y lleiniau eu gorffwys cyn tymor pori 2025.
Tymor tyfu 2024
Mesurwyd argaeledd llystyfiant rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2024 ynghyd â chiplun o gyfansoddiad cemegol (protein crai, ffibr glanedol niwtral, carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr, lludw) gwndwn ym mis Gorffennaf 2024 cyn i’r gwndwn gael ei bori gan ŵyn tew. Er na welwyd cyfnodau hir o dywydd sych yn ystod tymor pori 2024, cafwyd cipolwg ar sefydliad a rheolaeth y gwndwn, a dangoswyd manteision ehangach gwndwn aml-rywogaeth mewn digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Bydd mesuriadau pellach yn cael eu casglu yn ystod tymor pori 2025.
Canlyniadau a thrafodaeth
Yn ystod tymor pori 2024, ni chafwyd unrhyw gyfnodau estynedig o dywydd sych na sychder. Yn hytrach, roedd y tymor pori’n anarferol o wlyb. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau’n rhoi cipolwg ar berfformiad y gwndwn cymysg amrywiol dan amodau anarferol o wlyb.
Dan amodau anarferol o wlyb, roedd llawer mwy o argaeledd biomas llystyfiant yn y lleiniau L+H ac ar draws y tymor pori o’i gymharu â’r llain PRG+C (p=0.043, Ffigur.1). Roedd hyn yn debygol o fod o ganlyniad i gyfansoddiad botanegol y gwndwn L+H a MS o ran presenoldeb rhywogaethau gyda dail mawr megis ysgall y meirch. Ni chasglwyd unrhyw ddata ar gyfansoddiad botanegol i gefnogi hyn, ond bydd data o’r fath yn cael ei gasglu yn ystod tymor pori 2025.
Mesurwyd cyfansoddiad cemegol y gwahanol wndwn cyn iddo gael ei bori gan ŵyn tew i ddarparu gwybodaeth am yr ansawdd maethol. Gweler y canlyniadau yn Nhabl 2.
Casgliad
Er na chafwyd cyfnodau hir o dywydd sych yn ystod tymor pori 2024, dangosodd y prosiect hwn fod y gwndwn L+H a MS wedi cynhyrchu llawer mwy o fiomas porthiant o’i gymharu â’r llain rhygwellt parhaol a’r llain reoli meillion. Bydd y prosiect hwn yn parhau yn ystod tymor pori 2025 i weld a fydd effeithiau tebyg yn cael eu harsylwi os ceir cyfnodau hir o dywydd sych.