Langtons Farm Diweddariad ar y prosiect – Terfynol
Ymestyn tymor cynhyrchu tomatos er mwyn cyfanwerthu
Prif ganlyniadau
- O ganlyniad i’r tymheredd oer drwy gydol y tymor, nid yw’n glir faint o effaith y mae plannu’n hwyrach wedi’i gael ar gynnyrch
- Roedd yr amrywiaeth Sakura yn gallu ymdopi gyda’r tywydd oerach gan barhau i gynhyrchu cynnyrch digonol
- Er bod y cynnyrch yn is, cafodd y cnwd ei ddefnyddio fel rhan o’r cynllun peilot ‘Llysiau o Gymru mewn Ysgolion’
Cefndir
Mae gan Katherine a David Langton fferm 70 erw ar arfordir gorllewinol Ceredigion ac maent yn bwriadu arallgyfeirio i amrywiaeth o fentrau garddwriaeth, gan gynnwys cynhyrchu ar raddfa cae a pherllannau ffrwythau. Mae’r fferm yn Aberteifi yn adeiladu ar eu busnes gardd farchnad 4 erw sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau mewn modd amaeth ecolegol ar gyfer cynllun bocsys ffrwythau a llysiau wedi’u tyfu mewn modd amaeth-ecolegol, yn ogystal â chynhyrchu ar lefel cyfanwerthu ar gyfer manwerthwyr a siopau.
Yn 2023, roedd y teulu Langton yn rhan o gynllun peilot ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’, sef prosiect rhanddeiliaid ehangach yn archwilio sut i gynyddu cyfaint bwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol ac yn gynaliadwy o fewn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Llwyddodd y teulu Langton i dyfu ystod o gnydau ar gyfer ysgolion yng Nghymru, ac roeddent yn awyddus i adeiladu ar hynny ar gyfer tymor 2024.
Diben y gwaith
- Nodi amrywiaethau o domatos sy’n addas i’r diben ar gyfer caffael lleol a chyhoeddus
- Treialu gwahanol ddyddiadau plannu i ymestyn cynhyrchiant i’r Hydref
- Creu cyflenwad dibynadwy o gynnyrch i’w ddosbarthu ar sail cyfanwerthu i ysgolion yng Nghymru
- Archwilio gwahanol ddulliau tyfu i fodloni’r safonau cynhyrchu bwyd
- Cynyddu cynnyrch o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol
Yr hyn a wnaed
Amrywiaethau
Mae cyfres o safonau cynhyrchiant wedi cael eu drafftio ar gyfer y prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion’ y mae’n rhaid i’r holl ffermwyr gydymffurfio â nhw. Felly, yn yr arbrawf hwn, mae amrywiaethau penodol wedi cael eu dewis i fodloni gofynion arlwywyr ysgolion a’r cyfanwerthwyr sy’n cyflenwi’r system gaffael gyhoeddus. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i nodweddion sy’n benodol i’r cnwd, megis ymwrthedd i falltod mewn planhigion sy’n dwyn ffrwyth yn hwyrach. Cafodd yr amrywiaethau hyn hefyd eu hargymell gan gyflenwyr planhigion ar gyfer cynnyrch da. Dyma’r amrywiaethau a ddewiswyd:
- Sakura (bach melys)
- Rondobella (salad)
- Pozzano (siâp eirin)
- Vivagrande (mawr)
- Crimson Crush (salad – yn gallu gwrthsefyll malltod)
Roedd tomatos a gynhyrchwyd yn yr haf, yn enwedig yr amrywiaeth siâp eirin, i gael eu defnyddio mewn sawsiau, gyda thomatos ffres yn mynd i’r ysgolion yn ystod tymor yr Hydref.
Dyddiadau plannu
Ar gyfer yr arbrawf, plannwyd y planhigion yn gyfnodol ym mis Ebrill, Mai a Mehefin mewn ymgais i gynhyrchu cyflenwad dibynadwy drwy gydol yr haf ac i wthio cynhyrchiant cyn belled i mewn i’r tymor â phosibl i gyd-fynd â thymor yr Hydref yn yr ysgolion. Dyma’r dyddiadau plannu:
- 24 Ebrill 2024
- 8 Mai 2024
- 5 Mehefin 2024
- 26 Mehefin 2024
Byddai tymheredd ar ddiwedd y tymor yn pennu llwyddiant y cnwd i raddau, a byddai angen rhoi sylw i ystyriaethau eraill yn ogystal, gan gynnwys y perygl o falltod.
Cafodd y cnydau a blannwyd yn hwyrach eu plannu lle bu’r ffermwyr yn cadw moch yn y gorffennol, gan eu plannu mewn compost, felly dylai hynny gynnwys swm cymharol dda o faetholion.
Plannwyd y planhigion olaf mewn pridd, heb ddefnyddio tomwellt ond gyda chompost, ac nid oedd unrhyw bwysau chwyn gan eu bod wedi’u plannu mewn Mypex.
Ffactorau allanol a effeithiodd ar yr arbrawf
- Y tywydd a gafodd yr effaith negyddol waethaf, gyda thywydd oer ar ddiwedd y gwanwyn a’r haf. Fe wnaeth hyn arafu twf a lleihau cynnyrch.
- Dyma’r tymor cyntaf ar y safle newydd, felly mae’r ffermwyr yn dal i weithio ar faeth y pridd.
Canlyniadau
Cynnyrch
24/4 - Sakura 2.1kg fesul planhigyn
24/4 - Pozzano 1.36kg fesul planhigyn
8/5 - Pozzano 0.82kg fesul planhigyn (arweinydd dwbl felly dylai fod 70% un uwch na 24/4)
5/6 - Pozzano 0.45kg fesul planhigyn (arweinydd dwbl felly dylai fod 70% un uwch na 24/4)
24/4 - Rondabella 0.22kg fesul planhigyn (problem gyda dail yn cyrlio, problemau twf sylweddol, dim ffrwythau wedi sefydlu)
8/5 - Rondabella 1.87kg fesul planhigyn
5/6 - Rondabella 0.61kg fesul planhigyn (arweinydd dwbl, rhai problemau twf hefyd)
26/6 - Crimson crush 0.77kg fesul planhigyn (arweinydd dwbl felly dylai fod 70% yn uwch nag arweinydd unigol)
Nid oedd yr amrywiaeth Rondabella yn llwyddiannus. Arweiniodd rhywfaint o broblemau twf at rai o’r dail yn cyrlio cyn datod ac edrych yn normal. Ond ni fyddai bron dim o’r ffrwythau’n sefydlu.
Fe wnaeth pob un o’r amrywiaethau heblaw Sakura gynhyrchu llai na’r disgwyl. Cynhyrchodd y cnwd tomatos Sakura lai na’r flwyddyn flaenorol, ond heb fod yn fwy na 10%. Fodd bynnag, fel amrywiaeth o domatos bach, maent yn tyfu’n gyflym, ac mae’n debyg bod hynny wedi helpu i wrthbwyso’r tywydd oer.
Cafodd y planhigion a blannwyd yn hwyrach ddechrau araf iawn, a allai adlewyrchu’r tymheredd oer.
Edrych yn ôl ar yr arbrawf
- Ar gyfer y ffermwyr, nid yw’n hyfyw’n ariannol i wthio dyddiadau plannu’n hwyrach gyda’r risg o dymor oer. Roedd yr amrywiaeth Sakura yn gallu ymdopi gyda’r tywydd oer a dal i gynhyrchu cynnyrch derbyniol, sy’n addawol.
- Mae angen cynnal mwy o brofion pridd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffygion mwynau.
- Yn y dyfodol, byddai’n well gan y ffermwyr ganolbwyntio ar un amrywiaeth unigol er rhwyddineb, ac o bosibl i dyfu llai o blanhigion.