Gwndwn Llysieuol Cymru Diweddariad Prosiect
Astudiaeth Achos Crickie
Cyflwyniad
Mae fferm Crickie, Llangors yn un o ffermydd Rhwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio sy’n cymryd rhan yn y prosiect gwndwn llysieuol Cymru gyfan. Mae amlinelliad o’r prosiect ar gael yma. Dewiswyd cae 2 hectar ar gyfer y prosiect ar fferm Crickie a fu’n cael ei ddefnyddio i dyfu cnwd betys porthiant yn y gorffennol.
Dewiswyd dau grŵp o ŵyn o bwysau cyfartal ar 19 Awst 2024 i bori’r llain reoli (gwndwn glaswellt confensiynol a oedd yn cynnwys rhygwellt parhaol, cymysgedd o feillion a rhonwellt) a’r gwndwn llysieuol (cymysgedd o 14 rhywogaeth). Cafodd deg oen o bob grŵp (gyda phwysau cyfartalog o 34kg) eu marcio fel yr ŵyn i gael eu monitro ar gyfer y tymor pori hyd at 1 Rhagfyr 2024. Roedd hyn yn galluogi’r fferm i ostwng nifer yr ŵyn a oedd yn pori pob triniaeth dros amser yn ôl cyflenwad/galw am borfa, gyda’r deg oen a oedd yn cael eu monitro ar gyfer pob triniaeth yn aros ar y cae drwy gydol yr arbrawf.
Roedd y data a gasglwyd yn cynnwys cynnyrch deunydd sych ac ansawdd y porthiant, mesuriadau enillion pwysau byw, samplu gwaed (proffil elfennau hybrin unigol ar gyfer pob grŵp rheoli) a samplu cyfrif wyau ysgarthol (FEC).
Photo 1. Field set-up at Crickie.
Canlyniadau yr ŵyn hyd yma
Cafodd yr ŵyn eu pwyso’n unigol yn rheolaidd drwy gydol y tymor pori. Nid oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol o ran pwysau’r ŵyn ar ddiwedd y tymor pori, gyda’r ddau grŵp o ŵyn yn cyrraedd pwysau cyfartalog o 44kg. Mae ffigur 1 yn dangos pwysau cyfartalog y ddau grŵp o ŵyn yn ystod y cyfnod pori.
Ffigur 1. Pwysau cyfartalog yr ŵyn (kg) ar gyfer y ddau grŵp rheoli (coch – gwndwn confensiynol, gwyrdd – gwndwn llysieuol).
Casglwyd samplau carthion gan ŵyn unigol, a’u casglu ynghyd ar gyfer y ddau grŵp triniaeth (isafswm o 8 oen unigol) i ganfod cyfrif wyau ysgarthol y ddau grŵp rheoli yn rheolaidd yn ystod y tymor tyfu. Mae’r canlyniadau i’w gweld yn Nhabl 1. Cafodd yr ŵyn eu trin yn ystod mis Medi ond ni roddwyd unrhyw driniaethau llyngyr y tu hwnt i’r mis hwn.
Tabl 1. Cyfanswm cyfrif wyau ysgarthol o grŵp cyfun o ŵyn ar gyfer y ddwy driniaeth yn fisol.
Canlyniadau samplu gwaed
Casglwyd samplau gwaed gan filfeddyg y fferm ar ddechrau (19 Awst) a diwedd (11 Rhagfyr) yr arbrawf yn 2024 i ganfod lefelau copr, cobalt a seleniwm yn y gwaed. Nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y grwpiau o ŵyn, nac ychwaith unrhyw wahaniaeth rhwng dechrau a diwedd y tymor pori.