Tanygraig Diweddariad Terfynol – Chwefror 2025

Prif ganlyniadau

  • Ar ôl eu troi allan, roedd enillion pwysau byw dyddiol y ddau set o anifeiliaid yn eithaf tebyg trwy gydol y cyfnod pori, sef 0.77kg/dydd (dwysfwyd) a 0.81kg/dydd ar gyfer y grŵp silwair yn unig.
  • Bwytaodd y grŵp dwysfwyd 159.75kg yn fwy o ddwysfwyd na’r grŵp silwair yn unig, gan gostio cyfanswm o £71.89. Gan gymryd pwysau gwerthu o £2.90c/kg o bwysau byw ar gyfer y 27.28kg ychwanegol a gynhyrchwyd gan y grŵp dwysfwyd, byddai hynny’n cynrychioli elw cadarnhaol o £7.23 ar gyfer y grŵp dwysfwyd dros gostau porthi.
  • Er mwyn i’r system dwf cydadferol lwyddo, dylid cyflawni cynnydd targed o 0.6kg/dydd drwy gydol y gaeaf. Ar fferm Tanygraig, magodd y grŵp dwysfwyd 0.58kg/dydd ar gyfartaledd drwy gydol y gaeaf o’i gymharu â’r grŵp silwair yn unig a fagodd 0.4kg/dydd ar gyfartaledd.

Cefndir

Yn ystod gaeaf 2023/24, cafodd 21 o wartheg stôr sugno eu cadw ar ddietau ar wahân, sef naill ai silwair meillion coch a dwysfwyd neu silwair meillion coch yn unig. Nod y prosiect oedd archwilio’r potensial i leihau lefel y dwysfwyd a roddir i wartheg stôr dros y gaeaf, a p’un a fyddai’r gwartheg yn gwneud iawn am y diffyg maeth unwaith y byddent yn pori ar laswellt yn y gwanwyn, gan beidio â chyfaddawdu twf wrth gael eu troi allan. 

Diben y gwaith

Nod y prosiect yw treialu hepgor bwydo dwysfwyd i’r lloi diddwyn yn ystod y gaeaf cyntaf i gyfrifo budd gostwng costau porthiant heb effeithio ar berfformiad cyffredinol drwy leihau porthiant y gaeaf drud a gwneud y defnydd gorau o laswellt, sef y ffynhonnell fwyd rhataf. 

Yr hyn a wnaed

Cafodd y gwartheg stôr Aberdeen Angus a gynhyrchwyd ar y fferm eu rhannu’n ddau grŵp o 11 a 10. Ar ôl diddyfnu ar 16 Tachwedd, derbyniodd y grŵp o 10 silwair yn unig am weddill y tymor. Gellir gweld crynodeb o’r dadansoddiad isod yn nhabl 1

Tabl 1. Dadansoddiad o silwair tymor 2023.

Egni

Dadansoddiad

Sylwadau

Deunydd sych (%)

33.5

Safonol

Egni metaboladwy (MJ/kg)

10.8

Safonol

Protein crai (%)

12.0

Safonol

Amonia N (% o gyfanswm N)

4.0

Isel

pH

4.0

Safonol

Cymeriant posibl (FiM) (g/kgW 0.75)

106

Safonol

Derbyniodd yr 11 o wartheg a oedd yn weddill silwair adlib a 3kg o ddwysfwyd am fis ar ôl diddyfnu, ac yna cawsant 1.5kg y dydd nes iddynt gael eu troi allan ar 2 Ebrill. Cafodd y gwartheg eu pwyso 5 gwaith drwy gydol y prosiect. Gellir gweld dadansoddiad o’r dwysfwyd a roddwyd i’r gwartheg isod yn ffigur 1.

Ffigur 1. Dadansoddiad o’r dwysfwyd. 
 

Defnyddiwyd offer Beef Monitor (gan Ritchie) ynghyd â phwyso confensiynol drwy’r glorian yn y craets i asesu perfformiad gwartheg a threialu’r offer Beef Monitor. Roedd yr offer yn gweithio’n dda yn ystod y cyfnod dan do, ond nid oedd i’w weld mor gywir pan fo’r gwartheg ar y borfa a phan fo stoc yn cael eu symud o un cae i’r llall. Oherwydd y tywydd, nid oedd y gwartheg wedi yfed cymaint â’r disgwyl ac roedd nifer y teithiau dros y cloriannau i’r dŵr yn llawer llai. Roedd gweithio ar lefel grŵp i gael canlyniadau cywir ar gyfer yr arbrawf hefyd yn anodd, gan nad oedd y gwartheg yn cael eu pwyso ar yr un diwrnod o reidrwydd. Felly, drwy ddod â’r gwartheg i mewn a’u pwyso yn y craets, roedd modd i ni asesu’r grŵp cyfan ar ddiwrnod unigol, ac yna i gofnodi’r data hwn yn erbyn sesiynau pwyso eraill, ond roedd hyn yn ddwys o ran llafur. Cerddodd y gwartheg yn hapus i’r monitor, ac o’i gymharu â phwyso mewn craets, roedd hyn yn rhoi llawer llai o straen ar y gwartheg, gan hefyd wella iechyd a diogelwch i’r ffermwr gan ei fod yn golygu gorfod trin llai ar yr anifeiliaid.
 

Canlyniadau

Dechreuodd y grwp dwysfwyd ar bwysau cyfartalog o 280kg, ac roedd pwysau dechreuol y grwp silwair yn 290kg. Yn ystod y cyfnod, fe wnaeth y grŵp dwysfwyd fagu cyfanswm o 177kg, gyda’r grŵp silwair yn unig yn magu cyfanswm o 150kg. Mae’r cynnydd pwysau hwn i’w weld yn Ffigur 2 a Thabl 2  isod.
 

Ffigur 2 – Cynnydd pwysau cyfartalog gwartheg (kg) ar y diet silwair yn unig a’r diet dwysfwyd a silwair

Tabl 2 – Data crai o gynnydd pwysau (kg) cyfartaloeg ar y diet silwair yn unig a’r diet dwysfwyd a silwair

 

16/11/2023

6/12/2023

7/02/2024

2/04/2024

13/08/2024

Cyfanswm cynnydd pwysau

Dwysfwyd

280

294

305

355

458

177.18

Dim dwysfwyd

290

305

318

333

440

149.9

Roedd cynnydd pwysau byw dyddiol yr anifeiliaid yn y ddau grŵp yn parhau i fod yn gymharol debyg rhwng diddyfnu â phwyso ym mis Chwefror. Ar ôl y pwynt hwn, cynyddodd y grŵp dwysfwyd eu pwysau byw dyddiol i 0.91kg/dydd o’i gymharu â 0.28kg/dydd ar gyfer y grŵp silwair yn unig. Yna, ar ôl eu troi allan, arhosodd enillion pwysau byw dyddiol y ddau set o anifeiliaid yn gymharol debyg drwy gydol y tymor pori ar 0.77kg/dydd (dwysfwyd) a 0.81kg/dydd ar gyfer y grŵp silwair yn unig. Mae Ffigur 3 a Thabl 3 yn dangos dadansoddiad ar gyfer cynnydd pwysau byw dyddiol y grwpiau. 

Ffigur 3 – Cynnydd pwysau byw cyfartalog y gwartheg ar y gwahanol ddietau.

Tabl 3 – Data crai cynnydd pwysau byw dyddiol (kg/dydd) y gwartheg ar wahanol ddietau

 

16/22/23 - 6/12/23

6/12/23 - 7/2/24

07/02/2024- 2/4/24

2/4/24- 13/8/24

Dwysfwyd

0.67

0.18

0.91

0.77

Dim dwysfwyd

0.72

0.21

0.28

0.81

Dros gyfnod y gaeaf, bwytaodd y grŵp dwysfwyd 159.75kg yn fwy o ddwysfwyd na’r grŵp silwair yn unig, ac roedd cyfanswm y gost ar gyfer hyn yn £71.89. Gan gymryd pris gwerthu o £2.90/kg o bwysau byw ar gyfer y 27.28kg ychwanegol a gynhyrchwyd gan y grŵp dwysfwyd, byddau hynny’n cynrychioli elw positif o £7.23 ar gyfer y grŵp dwysfwyd dros ben y costau bwydo.

Yn ystod y prosiect, roedd twf y gwartheg ar y diet silwair yn unig yn enwedig o wael yn ystod y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Ebrill, ac roedd hyn yn cyd-fynd ag ychydig iawn o dwf ychwanegol ar ffurf twf cydadferol yn ystod y gwanwyn ar y borfa. Felly, er mwyn i’r system dwf cydadferol lwyddo, dylid cyflawni cynnydd targed o 0.6kg/dydd drwy gydol y gaeaf, gan ddefnyddio ychwanegion silwair neu ddwysfwyd os na ellir cyflawni hynny gyda’r porthiant sydd ar gael. Mae Tabl 4 gan Teagasc isod yn rhoi argymhellion gofynnol o ran Gwerth D y silwair. Gyda gwerth-D o 66, yr awgrym fyddai bwydo hyd at 1.2kg/dydd. Ar ôl eu troi allan, disgwylir y bydd yr anifeiliaid yn gwneud iawn am hyn ac yn cynyddu eu cyfraddau twf yn ystod y tymor pori hefyd.

Tabl 4 – Canllaw o gyfraddau bwydo dyddiol Teagasc yn seiliedig ar ansawdd silwair