Cwmcowddu Diweddariad ar y prosiect – Terfynol
Prif ganlyniadau
- Arweiniodd gwelliannau o ran effeithlonrwydd porthiant a chynhyrchiant llaeth at well rheolaeth costau a lleihau gwastraff bwyd drwy wella cymeriant deunydd sych.
- Cynhyrchodd y gwartheg 26-27 litr o laeth fesul diwrnod ar gyfartaledd yn ystod tymor pori heriol.
Cefndir:
Yn ystod gaeaf 2023-24, bu’r prosiect yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant llaeth y fuches ar fferm Cwmcowddu, yn benodol drwy addasu’r dogn i reoli costau bwydo. Y brif her oedd lleihau cyfraddau bwydo heb effeithio’n negyddol ar gynnyrch llaeth. Bu’r prosiect yn canolbwyntio ar wneud y gorau o gymeriant deunydd sych ar ddechrau’r cyfnod llaetha a gwella cynnyrch brig a dyfalbarhad llaetha. Amlygodd gwaith proffilio metabolig ar y gwartheg bryderon yn ymwneud â beichiogrwydd hwyr ac iau brasterog, a allai arwain at broblemau iechyd sy’n effeithio ar gynhyrchiant. Y nod oedd cyflwyno strategaeth a fyddai’n gwella cynhyrchiant ac iechyd gwartheg gan hefyd reoli costau porthiant.
Diben y gwaith:
- Gwneud y gorau o effeithlonrwydd porthiant: Cynyddu cynhyrchiant llaeth gan hefyd leihau costau bwydo fesul litr.
- Gwella iechyd y fuwch: Canolbwyntio ar atal problemau metabolig a gwella rheolaeth gwartheg yn ystod y cyfnod pontio.
- Cynyddu cynnyrch llaeth: Canolbwyntio ar wella cynnyrch brig a dyfalbarhad llaetha drwy addasiadau maethol.
Yr hyn a wnaed:
Roedd y fethodoleg yn cyfuno sawl strategaeth i wneud y gorau o berfformiad y fuches:
- Bwydo dogn ac addasu porthiant: Canolbwyntio ar leihau cyfraddau bwydo gan hefyd gynyddu cynnyrch llaeth drwy gynyddu dwysedd egni a lefelau starts, gan gynnwys cyflwyno 13.5kg o india-corn fesul buwch.
- Proffilio metabolig: Cynnal profion metabolig ar drawstoriad o wartheg i ganfod problemau iechyd, megis iau brasterog, a oedd yn cael eu rheoli drwy addasu’r dogn ar gyfer gwartheg yn y cyfnod pontio.
- Gwella iechyd gwartheg: Cyflwyno rholiau gwartheg sych a Mag Clorid i gefnogi lefelau egni a lleihau’r risg o dwymyn llaeth. Rhoddwyd ffocws ar sicrhau bod gwartheg yn barod ar gyfer dechrau’r cyfnod llaetha.
Rheoli’r borfa: Yn ystod yr haf, cafodd y gwartheg eu bwydo ar ddwysfwyd yn unig drwy’r parlwr godro, a buont yn pori mwy i gefnogi cynhyrchiant llaeth yn ystod tymor heriol
Canlyniadau:
- Cynnyrch llaeth: Roedd gwartheg yn cynhyrchu 26-27 litr y dydd ar gyfartaledd yn ystod tymor pori heriol.
- Effeithlonrwydd bwyd: Rhoddodd yr addasiadau protein a chyflwyno india-corn hwb i gynhyrchiant llaeth a lefelau protein llaeth gan hefyd reoli costau bwydo.
- Iechyd y fuwch: Trwy fynd i’r afael â phroblemau metabolig a gwella’r cyfnod pontio, gwelwyd lleihad yn y nifer o glefydau’n agos at enedigaeth, a bydd hynny’n cefnogi gwell ffrwythlondeb.
- Cymeriant bwyd: Llwyddwyd i sicrhau mwy o gymeriant deunydd sych drwy fwydo porthiant cymysg, gan arwain at well bodlonrwydd cyffredinol ymysg y gwartheg.
- Heriau: Roedd troi’r gwartheg i’r borfa’n hwyrach a silwair o ansawdd is yn amlygu’r angen i wella rheolaeth silwair dros fisoedd y gaeaf.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Addasu dognau’r gwartheg: Cyflwyno strategaeth fwydo gydag opsiynau dwys o ran egni sydd hefyd yn gost effeithiol megis silwair india-corn i gefnogi cynhyrchiant llaeth.
- Monitro iechyd metabolig: Cwblhau proffiliau metabolig yn rheolaidd i adnabod a rheoli problemau iechyd posibl megis iau brasterog.
- Cefnogi’r cyfnod pontio: Cyflwyno rholiau gwartheg sych a defnyddio Mag Clorid yn ystod wythnosau olaf beichiogrwydd i leihau’r risg o dwymyn llaeth.
- Gwneud y gorau o’r borfa: Yn ystod yr haf, canolbwyntio ar bori ac addasu dwysfwyd yn seiliedig ar ansawdd y glaswellt sydd ar gael i leihau costau porthiant.
- Sicrhau silwair o ansawdd uchel: Cynhyrchu a storio silwair glaswellt o ansawdd uchel i osgoi prinder a sicrhau cynhyrchiant llaeth parhaus yn y gaeaf.