Pam fyddai John yn fentor effeithiol

  • Daw John o Firmingham yn wreiddiol a daeth i Gymru i ffermio ar fferm deuluol 68 erw ar ôl gorffen y coleg yn 1984. Ar y pryd, roedd tua 23 o fuchod (dim ond 10 yn lloea) a 200 o famogiaid (ŵyna’n 90%) ar y fferm.Ers hynny, mae John wedi cynyddu nifer y stoc, gan ganolbwyntio’n bennaf ar iechyd anifeiliaid a chynhyrchiant.
  • Mae John yn cofnodi'r holl ddefaid a gwartheg yn unigol er mwyn monitro perfformiad a chynhyrchiant yr anifeiliaid. Daeth i weld bod dysgu darnau bach o wybodaeth yn gallu gwneud newidiadau mawr i effeithlonrwydd y fferm. Mae’n defnyddio EID hefyd ac yn dosio’r ŵyn yn ôl eu cynnydd pwysau dyddiol
  • Mae John hefyd yn ymdrin â diffyg elfennau hybrin trwy roi bolysau i’r stoc. Teimla ei bod hi’n bwysig rhoi cynnig ar bethau gwahanol, gan fonitro’r canylyniadau bob amser a  dysgu ganddynt.
  • Ymwelodd John â Seland Newydd yn 1998 ar ysgoloriaeth Strategaeth Ddefaid Cymru ac fe wnaeth y cynllun monitro fferm argraff arno. Ar ôl dychwelyd roedd yn rhan o grŵp a sefydlodd system fferm fonitro ar dair fferm am dair blynedd.  Ar fferm John a Sarah, roedd grŵp o 30 o ffermwyr, rheolwyr banc, arbenigwyr glaswelltir a swyddogion prynu cig. Dywed bod y profiad o werthuso perfformiad busnes, a dynodi potensial y fferm a dyheadau’r ffermwyr wedi ei helpu i fod yn fwy parod i dderbyn ffyrdd gwahanol o weithio a rhannu gwybodaeth
  • Ar hyn o bryd mae John yn rhan o brosiect EIP sy’n edrych ar wella defnydd glaswelltir gan ddefnyddio systemau pori cylchdro a chynyddu’r nifer o ronwellt mewn glaswelltir ar yr ucheldir.
  • Yn dilyn ymweliad â’r Ffindir yn 2018 fel rhan o rhaglen Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i edrych ar wella effeithlonrwydd glaswelltir, heuwyd meillion gwyn, rhonwellt a llyriad ar un o’r blociau ucheldir ar y fferm yn ogystal â glaswellt rygwellt parhaol. Cafodd rhai blociau o wyndonnydd amlrywogaeth eu hychwanegu’n ddiweddar hefyd.
  • Mae John yn gyfathrebwr effeithiol, sy’n gwrando ac yn mwynhau cyfarfod pobl a dysgu amdanyn nhw a ganddyn nhw

Busnes fferm presennol

  • Mae John yn ffermio mewn partneriaeth â’i wraig, Sarah
  • Mae’r fferm yn 284 erw, gyda 275 erw yn eiddo iddynt a 9 erw arall ar rent
  • Buches fagu gaeedig o oddeutu 90 o fuchod pedigri a chroes Limousin a heffrod cyfnewid, sy’nlloea’n ddwyflwydd oed
  • Diadell gaeedig o 730 o famogiaid Beulah yn bennaf ac ŵyn benywcyfnewid.. Gwerthu defaid bridio,ŵyn wedi eu pesgi a hyrddod
  • Yn gwerthu bocsys cig bîff a chig oen yn uniongyrchol i gwsmeriaid
  • Ychydig erwau o goetir. Mae gan John gynlluniau i ehangu’r coetir i orchuddio tir ochrog mwy heriol trwy blannu rhywogaethau llydanddail brodorol yn cynnwys ceirios blodeuog, eirin ayyb er mwyn annog mwy o beillwyr a gwella bioamrywiaeth.
  • Buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy gyda phaneli solar ar do’r sied ddefaid
  • Yn gosod system ddŵr newydd sy’n gweithio ar ynni’r haul ar un o flociau ucheldir y fferm er mwyn helpu gyda’r system bori cylchdro

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • OND Amaethyddiaeth, Coleg Amaeth Cymru, Aberystwyth 1981-1984
  • Aelod o Grŵp Hyfforddi Cefn Coch a’r Cylch (ATB)
  • Ysgoloriaeth Nuffield 2006
  • Ail fel Arloeswr Defaid y flwyddyn, British Farming Awards 2016
  • Ymweliadau i’r Ffindir, Iwerddon a’r DU fel rhan o rhaglen Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio yn edrych ar wella’r defnydd o laswellt a dosbarthu carcasau cig eidion a chig oen 2018-2019

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Rhannwch eich problemau, mae yna wastad bobl sydd wedi wynebu’r un heriau, wedi mynd i’r afael â phroblemau tebyg ac rydym i gyd yn dysgu trwy brofiad.”

“Pan fydd pethau mewn bywyd neu fusnes yn ymddangos yn dywyll, mae mwy o gyfleoedd bob amser.”

“Byddwch yn agored hefo’ch gilydd, a hefyd eich rheolwr banc, cyfrifydd a milfeddyg gan eu bod yn rhan bwysig iawn o’ch busnes.”

“Mae ’na lawer o bethau yn mynd o chwith, ond mae ’na rai pethau yn mynd yn iawn ac mae’n rhaid i chi wneud y mwyaf o’r pethau sy’n mynd yn iawn.”

“Mae owns o synnwyr cyffredin cystal â thunnell o ymennydd!”