Prosiect Mewnbynnau Cynaliadwy ar Waith: Asesu effaith cynhyrchion biolegol ar ansawdd a chynnyrch glaswellt

Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r manteision posibl y gall mewnbynnau cynaliadwy fel triagl a hwmadau eu darparu o ran gwella ansawdd porthiant, lliniaru straen anfiotig, ac ategu cynnyrch cnydau, wrth leihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol. Mae tuedd ar i fyny tebyg yn amlwg ar gyfer cynhyrchion biolegol a chynaliadwy eraill, sydd i’w gweld mewn astudiaethau academaidd a threialon ar ffermydd.

Ein nod yw rhoi rhai o'r cynhyrchion hyn ar brawf ar dair fferm o fewn rhwydwaith Ein Ffermydd - Cilthrew, Crickie a fferm Cwmrisga. Bydd pob fferm yn treialu chwe chynnyrch biolegol gwahanol, wedi'u chwalu ddwywaith drwy gydol y tymor tyfu, ac yn gwerthuso eu heffaith ddilynol ar ansawdd a chynnyrch glaswellt. Bydd y cynhyrchion yn cael eu chwalu gan ddefnyddio offeryn Tow and Fert, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer chwalu cynhyrchion biolegol. Bydd pob plot hefyd yn cael ei farcio â thri phwynt cyfeirio â lleoliad GPS ar gyfer samplu ac asesiadau cyson drwy gydol y tymor. Byddwn hefyd yn gadael plot heb ei drin i feintioli unrhyw enillion a gyflawnwyd a chanfod yr elw o ganlyniad i fuddsoddi yn ôl y cynhyrchion a ddefnyddir. 

Mae'r chwe chynnyrch fel a ganlyn:

  • Soil Point: Cyflyrydd pridd sy'n seiliedig ar asid hwmig a ffwlfig, sy'n darparu mwynau hybrin ac yn gwella strwythur y pridd i gefnogi ymsefydlu, twf ac ansawdd cnydau.
  • Sea2Soil: Hydrolysad protein pysgod sy'n cynnig asidau amino ac elfennau hybrin sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer iechyd planhigion ac iechyd y pridd.
  • Slygen: Cymysgedd microbaidd o facteria a ffyngau buddiol sy'n gwella bioleg y pridd ac yn hyrwyddo twf planhigion.
  • Kelp Crofters: Cynnyrch sy'n seiliedig ar wymon sy'n llawn awcsinau, cytocininau, a giberelinau, wedi'i gynllunio i ysgogi twf a gwella gwytnwch i straenachoswyr.
  • QLF TerraFed: Triagl wedi'i hidlo sy'n cyflenwi siwgrau sydd ar gael i blanhigion i fwydo microbioleg planhigion a’r pridd.
  • BIOCAT: Technoleg newydd sy'n seiliedig ar ffag sy'n targedu bacteria niweidiol yn y pridd, gyda'r nod o ail-gydbwyso microbiomau’r pridd ac ategu cynnyrch a lefelau protein grawn.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Dŵr glân
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon