MeistrBusnes Llaeth

Mae'r gweithdy hwn ar gyfer ffermwyr llaeth sydd am ddeall mwy am gyllid eu fferm a sut i nodi meysydd ar gyfer gwell perfformiad economaidd.

Mae gan Owen ac Anna arbenigedd mewn meysydd gwahanol iawn, ac maent wedi gweithio gyda’i gilydd yn flaenorol i ddarparu hyfforddiant i filfeddygon llaeth, ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes Economeg Ffermydd Llaeth. Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at ffermwyr, ac mae wedi'i gynllunio i fod yn berthnasol iawn i'w hanghenion yn ogystal â bod yn ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys mwy nag edrych ar daenlenni am ddau ddiwrnod!

Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?

Dyma weithdy lefel uwch sy'n darparu gwybodaeth dechnegol iawn i grŵp. Mae'n addas ar gyfer perchnogion fferm, rheolwyr fferm a gweithwyr fferm sy'n gweithio ar unrhyw fath o system fferm laeth, ac mae'n fwyaf addas ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau arwain.

Agwedd bwysig ar Ddosbarthiadau Meistr Cyswllt Ffermio yw y gall cynrychiolwyr rannu profiad a gwybodaeth ei gilydd: anogir trafodaeth am y pwnc. Mae'r addysgu yn cael ei ddarparu ar ffurf “gweithdy” yn hytrach nag ystafell ddosbarth mwy annymunol.

Cynnwys

Mae'r gweithdy’n cynnwys y canlynol:

  • Costau cynhyrchu; costau cyffredinol, costau newidiol a chostau rhent/cyllid
  • Dehongli cyfrifon y fferm
  • Ffynonellau eraill o wybodaeth economaidd: adroddiadau ar gostau; cyfrifon rheoli; adroddiadau meincnodi
  • Cyllidebau a dadansoddiad cyfrannol: beth ydyw, sut i'w wneud a normau'r diwydiant
  • Elw Fferm Cymharol: beth mae hyn yn ei olygu a sut i'w gyfrifo ar gyfer eich fferm
  • Costau afiechyd
  • Dadansoddiad o wariant milfeddygol
  • Systemau llaeth a thargedau proffidioldeb
  • Dangosyddion Perfformiad Allweddol: sut i gadw golwg ar eich perfformiad eich hun
  • Nodweddion y ffermydd sy’n perfformio orau: beth sy’n gwahaniaethu rhwng y 25% uchaf a’r 25% isaf o ffermydd a rhai awgrymiadau ymarferol ar sut i gyrraedd y brig
  • Elw ar fuddsoddiad: gwella hyder wrth wneud cyfrifiadau
  • Astudiaethau achos: mynd i'r afael â gwybodaeth a chyfrifiadau sylfaenol; cymhwyso'r rhain i'ch sefyllfa eich hun.

Anogir y rhai sy’n cymryd rhan i weithio gyda'u data ariannol eu hunain, lle y gallant, er mwyn cysylltu cynnwys y gweithdy â'u sefyllfa eu hunain. Ni fydd disgwyl i neb rannu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.

Tiwtoriaid

Mae Owen Atkinson yn filfeddyg RCVS Arbenigol mewn Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg, ac mae ganddo Dystysgrif mewn arweinyddiaeth newid. Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda buchesi llaeth o bob math i wella eu perfformiad, gan ganolbwyntio'n bennaf ar well iechyd, ond hefyd mesur a meincnodi ystod o DPA ar gyfer paramedrau effeithlonrwydd cynhyrchu pwysig eraill.

Mae Anna Bowen yn ymgynghorydd busnes fferm sy’n gweithio i The Andersons Centre, gan arbenigo mewn mentrau llaeth a chynllunio rheoli maetholion. Mae Anna wedi gweithio mewn ymgynghoriaeth fferm ers dwy flynedd ar bymtheg ac mae hefyd yn ffermio ar gontract gyda buches o 300 o wartheg llaeth sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn. Mae’n gweithio gyda ffermwyr ledled Cymru a Lloegr gan ddarparu cyngor technegol, busnes a strategol, gyda ffocws ar ffermio proffidiol o systemau syml.

Dyddiadau a lleoliadau -

Nid yw lleoliad y Dosbarth Meistr wedi'i gadarnhau eto, unwaith y bydd y ffenestr ymgeisio wedi cau byddwn yn ceisio cael lleoliad mor ganolog â phosibl.

MeistrBusnes Llaeth    21-22/10/2025