Huw Thomas
Llanspyddid, Aberhonddu
Wedi ei fagu ar fferm bîff a defaid ym Mannau Brycheiniog, mae Huw Thomas yn awr yn rhannu ei fywyd rhwng gwaith fel peiriannydd strwythurol a swyddogaeth gynyddol yn ôl ar y fferm deuluol. Nid yw Huw wedi dilyn y llwybr amaethyddol traddodiadol, taniwyd angerdd Huw dros ffermio yn ystod y cyfnodau clo Covid-19 pan ddychwelodd adre i’r fferm deuluol a sylweddoli y gallai roi cyfraniad ystyrlon.
Wedi graddio o Brifysgol Abertawe gyda MEng mewn Peirianneg Sifil, mae Huw yn awr yn gweithio ar brosiectau isadeiledd mawr ar draws y wlad.
Roedd yn chwaraewr rygbi brwd ar un adeg, ond yn awr mae Huw yn sianelu ei ysbryd cystadleuol trwy golff, criced a phadel.
Mae tuedd entrepreneuraidd wedi bod yn Huw ers pan oedd yn ifanc iawn - yn trwsio ffonau, gwerthu coed tân a lansio ‘Huw’s Hut’, prosiect arallgyfeirio yn cynhyrchu cytiau bugeiliaid. Mae wedi mwynhau troi syniadau yn ffaith bob amser.
Mae’n sylweddoli bod ganddo lawer iawn i’w ddysgu ond mae wedi cyffroi o feddwl am y cyfle hwn i chwarae rhan ystyrlon yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn nyfodol y fferm. Pwyslais Huw ar gyfer y busnes yw gwella effeithlonrwydd, cefnogi dilyniant rhwng y cenedlaethau ac archwilio prosiectau arallgyfeirio hyfyw i sicrhau gwytnwch yn yr hirdymor.
“Mae’r Academi Amaeth yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu gan eraill, herio fy hun a chreu cysylltiadau gwerthfawr. Bydd yn gadael i mi gael profiad o’r diwydiant y mae arnaf ei angen a gweld sut y mae busnesau ffermio llwyddiannus yn gweithredu.”