Dafydd Taliesin Rhys Davies

Llanwrtyd Wells, Powys

Cred Dafydd Davies bod amaethyddiaeth yn ganolog i gymunedau a diwylliant Cymru.  Ar hyn o bryd mae’n astudio Peirianneg Tir Lefel 3 yng nghampws Coleg Sir Gâr, Gelli Aur, ei nod hirdymor yw cyfuno ffermio gyda gweithgareddau dylunio a pheirianneg.  Mae eisoes yn cael profiad peirianyddol ymarferol trwy leoliad rhan-amser gyda chyflenwr tractorau lleol, lle mae’n mwynhau helpu cwsmeriaid a gweithio fel rhan o dîm. 

Byw ar fferm bîff a defaid ucheldir ger Llanwrtyd y mae Dafydd. Am weithio gyda stoc y mae’n angerddol, gyda’i gŵn defaid ffyddlon wrth ei ochr fel arfer, pan na fydd yn y coleg neu’n gweithio. Cynrychiolodd y Ffermwyr Ifanc ar lefel sirol yn y gystadleuaeth gwaith coed hŷn a thra’r oedd yn dal yn yr ysgol, enwebwyd un o’i brosiectau dylunio, yn gysylltiedig â marcio ŵyn, am Wobrau Arloesedd Cymru.  

Ei gynllun hirdymor yw dod o hyd i denantiaeth fferm, ac mae’n gobeithio cyfuno hynny â rhedeg ei fusnes peirianyddol neu wneuthuriad ei hun. 

“Mae gennyf ddiddordeb mewn arloesedd amaethyddol a byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i deithio dramor felly bydd ymweld â Norwy, sy’n enwog am ei systemau ffermio effeithlon, yn uchafbwynt i’r Academi Amaeth i mi. 

“Dyma gyfle unwaith mewn oes ac ni allaf aros i gwrdd â ffrindiau newydd, cyfnewid syniadau a dysgu oddi wrth yr arbenigwyr y byddaf yn eu cyfarfod!”