Ellis Dylan Morgan
Talybont on Usk, Powys
Mae Ellis Morgan, 18 oed, o fferm ddefaid a bîff gymysg yng nghanolbarth Cymru, newydd orffen cymhwyster Peirianneg Tir Lefel 3 yng Ngholeg Hartpury, Swydd Caerloyw. Taniodd ei gefndir ar fferm 450 erw ei deulu - sy’n cael ei gyrru gan ynni hydro, solar a biomas - ei angerdd am beiriannu, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn amaethyddiaeth. Yn ddiweddar mae’r teulu wedi arallgyfeirio i gynhyrchu sudd afal.
Yn beiriannydd brwdfrydig, mae Ellis yn awr yn gweithio’n llawn amser mewn gweithdy amaethyddol, yn cael profiad ymarferol o roi gwasanaeth i beiriannau a’u trwsio.
Mae Ellis yn aelod balch o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsenni ac mae’n cystadlu’n gyson ar siarad cyhoeddus, ffensio ac adloniant, gan ennill tri enwebiad am yr Actor Gwrywaidd Gorau (Dan 18 oed). Mae’n chwarae rygbi i Ieuenctid Aberhonddu ac mae’n mwynhau gweithgareddau codi arian yn y gymuned.
Mae Ellis wedi cyffroi am gwrdd â phobl ifanc o’r un meddylfryd ac archwilio syniadau newydd i gefnogi dyfodol ffermio yng Nghymru.
“Rwy’n neilltuol o awyddus i gael dealltwriaeth gan eraill yn y diwydiant ac ehangu fy ngwybodaeth i baratoi at redeg fy musnes peirianneg amaethyddol fy hun ar y fferm, gan gynnig gwasanaethau trwsio ac efallai adnewyddu hen beiriannau.
“Ni allaf aros i fanteisio ar bob cyfle y mae Rhaglen yr Ifanc yn eu cynnig ac rwy’n benderfynol o wneud y mwyaf o’r profiad, yn bersonol a phroffesiynol.”