Ifan Mars Jones
Dinbych, Conwy
Mae gan Ifan Mars Jones, a raddiodd mewn amaethyddiaeth yn Harper Adams swydd reoli gyffredinol ym musnes ffermio cymysg, amrywiol a blaengar ei deulu, sy’n godro 300 o fuchod Friesian Prydeinig ar system laswellt. Un o brif nodau Ifan yw gwella statws genetig y fuches trwy brofi genomig a dewis teirw yn fwy strategol, gan anelu at enillion hirdymor o ran cynhyrchiant, iechyd ac effeithlonrwydd.
Mae’r fferm hefyd yn pesgi’r holl loeau bîff o’r fuches laeth; yn rheoli 400 o famogiaid Miwl Cymreig ac yn tyfu tua 100 erw o gnydau tir âr yn flynyddol. Mae cyfrifoldebau Ifan yn cynnwys godro, hwsmonaeth y defaid, rheoli glaswelltir a chadw cofnodion.
Tra’r oedd yn y brifysgol, rhoddodd ei flwyddyn ar leoliad ar fferm laeth Velcourt, gyda 1,000 o fuchod, yn Dorset gyfle gwerthfawr iddo weld systemau allbwn mawr, dadansoddi busnes a meincnodi, sgiliau y mae’n eu defnyddio gartref erbyn hyn.
Yn gredwr brwd dros ddatblygiad proffesiynol parhaus, mae Ifan wedi cael cymwysterau ychwanegol mewn pynciau sy’n cynnwys cymorth cyntaf; rhoi sgôr cyflwr corff i wartheg; rhoi tarw potel; cadw cofnodion a thrin peiriannau. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau rygbi a chanu mewn côr.
“Bydd yr Academi Amaeth yn rhoi golwg ehangach i mi o’r diwydiant a’r cyfle i gamu yn ôl o’r gwaith o ddydd i ddydd i ddatblygu yn bersonol a phroffesiynol fel rhan o rwydwaith cefnogol o arweinwyr amaethyddol y dyfodol.”