Ioan Stephen Humphreys

Carno, Powys

Ei enw ar Instagram yw ‘That Welsh Farmer’ ac mae ganddo 50,000 o ddilynwyr! Yn 32 oed, mae Ioan Humphreys yn rhannu llawer o’r hyn y mae’n ei wneud ar ei fenter gymysg ffyniannus yng Ngharno, Powys, yn rheoli 800 o famogiaid, 25 o wartheg bîff ac yn fwy diweddar, dofednod. Bu’n rhaid i Ioan gymryd drosodd ar y fferm yn ddim ond 20 oed oherwydd amgylchiadau teuluol ac mae wedi arwain y busnes trwy dwf ac arallgyfeirio sylweddol. Yn 2019, cyflwynodd uned wyau ieir maes gyda 32,000 o adar, gan ehangu ffrydiau incwm y fferm a chreu chwech o swyddi rhan-amser.

Yn briod gyda dau o blant ifanc, mae Ioan yn cyfuno ffermio ymarferol â meddwl busnes cryf. Er bod yn well ganddo waith ymarferol gyda defaid a gwartheg, mae’n gwerthfawrogi’r uned ddofednod oherwydd ei bod mor rhagweladwy ac effeithlon. Mae’r fferm 500 erw yn gweithredu tair uned ar wahân - defaid, gwartheg a dofednod – pob un yn cael ei thrin fel busnes unigol, gan alluogi rheolaeth glir.

Yn benderfynol o baratoi ei fusnes at y dyfodol mae Ioan ar hyn o bryd yn buddsoddi mewn paneli solar i gynhyrchu 150kW i leihau costau a gwella cynaliadwyedd. Mae hefyd yn paratoi cais cynllunio ar gyfer siop fferm a chaffi ar y safle i arallgyfeirio’r busnes ymhellach. 

Mae Ioan yn mwynhau’r gampfa a chwarae pêl-droed, gan gadw cydbwysedd ac egni ar gyfer ei waith a’i fywyd gartref. Yn ymroddedig i welliant parhaus, mae’n awyddus iawn i ddysgu oddi wrth eraill yn y diwydiant. 

“Bydd yr Academi Amaeth yn fy ngalluogi i gyflwyno syniadau newydd a phersbectif newydd ar y ffordd yr ydym yn rhedeg y busnes.”