Laura Evans

Tregaron, Ceredigion

Yn syrfëwr siartredig a Chymrawd o’r Gymdeithas Ganolog o Briswyr Amaethyddol, graddiodd Laura Evans o Brifysgol Harper Adams yn 2021 gyda BSc mewn Mentrau Gwledig a Rheoli’r Tir. Cymhwysodd yn Sir Benfro cyn dychwelyd adref i Geredigion, lle mae’n awr yn cyfuno gwaith syrfëwr proffesiynol a gweithio ochr yn och â’i phartner a’i deulu i ddatblygu eu fferm bîff a defaid.

Mae cefndir amaethyddol Laura wedi ei wreiddio ym menter llaeth a bîff gymysg ei theulu, a chafodd brofiad o odro, magu lloeau a rheoli ei diadell fasnachol ei hun ers 2014.

Yn broffesiynol, trwy ei swydd gydag arbenigwr mewn ymgynghori gwledig, mae Laura yn cynghori cleientiaid ar draws Cymru ar grantiau, prisiadau, cyfraith tenantiaeth, cynllunio a gwerthu eiddo gwledig. Yn un o gyn-aelodau Rhaglen yr Ifanc, mae Laura ar hyn o bryd yn gadeirydd ar adran Priswyr Ifanc CAAV; yn is-gadeirydd o glwb eiddo ac adeiladu Gorllewin Cymru ac yn aelod brwd a chyn-gadeirydd ar ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol.

“Rwy’n gobeithio cael syniadau ymarferol a dealltwriaeth i’w dwyn yn ôl i’r fferm. Bydd dysgu trwy brofiad pobl eraill yn werthfawr iawn i’r busnes. Bydd yr Academi hefyd yn helpu i lunio cysylltiadau ac ystyried dulliau blaengar i gael twf cynaliadwy.”