Marcus Ferraro

Castellnewydd Emlyn, Ceredigion

Ers dychwelyd adref yn 2014 oherwydd amgylchiadau teuluol nad oedd wedi eu rhagweld, mae Marcus Ferraro, ffermwr llaeth penderfynol a sicr o’i feddwl, wedi trawsnewid y busnes teuluol yn uned 300 o fuchod ffyniannus a blaengar. Cychwynnodd ar yrfa yn y diwydiant llaeth i gychwyn ar ôl penderfynu nad mynd i’r brifysgol oedd y llwybr cywir, dangosodd wytnwch, penderfyniad ac angerdd dwfn dros ffermio cynaliadwy.

Ochr yn ochr â rhedeg y fenter laeth, mae hefyd wedi sefydlu cwmni bwydo dail a gwrtaith sy’n canolbwyntio ar helpu ffermwyr i leihau eu dibyniaeth ar nitrogen artiffisial. Gyda diddordeb mawr yn y cysylltiad rhwng perfformiad anifeiliaid ac iechyd y cnwd, cred bod penderfyniadau ar sail data a dangosyddion perfformiad allweddol clir - fel cyfraddau lloea 21 diwrnod - yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn nhirwedd amaethyddol gyfnewidiol heddiw.

Yn awyddus i dderbyn newid ac arloesedd, mae Marcus yn chwilio am gyfleoedd i ddiweddaru ei sgiliau’n weithredol ac mae’n cefnogi datblygiad staff yn ei dîm. Mae ei nodau at y dyfodol yn cynnwys gwella iechyd y pridd, lleihau’r graddau y mae newidiadau yn y farchnad yn effeithio arno, a rhannu gwybodaeth i helpu eraill i drosi i systemau mwy cynaliadwy.

“Rwy’n gweld yr Academi Amaeth fel cyfle allweddol i ehangu fy ngwybodaeth, herio fy ffordd o feddwl, tyfu trwy brofiadau a rennir a pharhau fy nhaith ddatblygu yn bersonol ac o ran y busnes, tu hwnt i leoliad academaidd ffurfiol. 

“Wedi eu herio gan dywydd anwadal a byd sy’n newid, rhaid i ffermwyr ddysgu sgiliau, strategaethau ac atebion newydd i fyw trwyddyn nhw.”