Siwan Roberts
Llanwddyn, Oswestry
Magwyd Siwan Roberts ar fferm bîff a defaid 350 erw ei theulu yng nghanolbarth Cymru. Yn ddim ond 10 oed cychwynnodd ei diadell o ddefaid pedigri Beltex. Wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Amaethyddiaeth yn 2023, dyfarnwyd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn CFAC/Prifysgol Aberystwyth iddi.
Gan ganolbwyntio ar yrfa ym myd amaeth, yn ychwanegol at ei rhan ym mhob agwedd o’r dyletswyddau cyffredinol, mae’n helpu i reoli menter dwristiaeth y teulu sy’n dal i dyfu. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys tri pod glampio gyda chynlluniau i drosi tair ysgubor yn llety gwyliau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyflwynodd y teulu wartheg Wagyu, at eu defnydd eu hunain i ddechrau ond mae’r fenter ar fin ehangu yn awr, gan gyflenwi bîff wedi’i fagu gartref i’r ymwelwyr hefyd.
Ar hyn o bryd mae Siwan yn arwain gwelliannau i berfformiad yr anifeiliaid, rheoli glaswelltir ac iechyd y pridd ar y fferm, gyda phwyslais ar gyflwyno systemau mwy cynaliadwy ac effeithlon.
Mae Siwan yn aelod o’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol ers blynyddoedd ac erbyn hyn mae’n ysgrifennydd ac mae’n cymryd rhan yn Aelwyd Penllys hefyd, lle mae’n mwynhau canu a pherfformio.
“Bydd ymweld â busnesau fferm eraill yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig cwrdd â chynhyrchwyr bîff Wagyu yn Japan, yn fy nghyflwyno i rwydweithiau newydd, yn fy ysbrydoli a’m hannog i ddatblygu ein menter Wagyu ein hunain. Bydd yr Academi Amaeth yn brofiad oes dwi’n siŵr!”