Sophie Hughes

Sontley, Wrecsam

Ar ôl graddio gyda gradd mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid o Brifysgol Harper Adams, treuliodd Sophie Hughes bum mlynedd yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi gyda chwmni cyfanwerthu cig mawr. Yn awr mae wedi dychwelyd i fferm laeth a defaid 200 erw ei theulu ger Wrecsam, yn benderfynol o’u helpu i wella ei heffeithlonrwydd a’i chynaliadwyedd yn yr hirdymor.

Mae Sophie yn rheoli 100 o fuchod llaeth ac mae’n chwarae rhan weithredol yn godro, porthi, rhoi tarw potel, trimio traed a magu heffrod. Ochr yn ochr â hyn mae’n cadw ei diadell ei hun o 200 o famogiaid masnachol ac yn cymryd cyfrifoldeb am holl waith papur y fferm.

Mae ei nodau presennol yn cynnwys cynyddu’r cynnyrch llaeth o borthiant a lleihau’r bwlch rhwng lloea i roi hwb i gynhyrchiant y fuches a phroffidioldeb y busnes. Gyda nifer o byllau pysgota ar y fferm, mae Sophie hefyd yn gobeithio ystyried prosiect arallgyfeirio i bodiau glampio i apelio ymhellach at ymwelwyr a chryfhau incwm y fferm.

Tu hwnt i ffermio, mae Sophie yn mwynhau chwarae pêl-rwyd i dîm lleol, cadw’n ffit yn y gampfa a chystadlu ar dynnu rhaff merched trwy’r Ffermwyr Ifanc. Yn angerddol am ddyfodol ffermio yng Nghymru, mae’n awyddus iawn i ehangu ei rhwydwaith a chroesawu arloesedd.

“Mae’r Academi Amaeth yn gyfle rhagorol i ddatblygu fy hun ymhellach a busnes y teulu, ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag arbenigwyr y diwydiant ac unigolion o’r un meddylfryd a fydd yn fy annog i roi fy syniadau ar waith.”