Holiadur Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Cymru - Rydym am glywed gennych chi!

Rydym yn lansio holiadur pwysig i ddeall pa gymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i ffermwyr cenhedlaeth gyntaf neu newydd-ddyfodiaid ledled Cymru ac i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnynt.

Dyma'ch cyfle i rannu'r hyn sy'n gweithio'n dda, nodi bylchau, a thynnu sylw at feysydd lle mae angen mwy o gymorth.

Pam mae eich adborth mor bwysig?

  • Llunio cymorth y dyfodol: Bydd eich dealltwriaeth yn llywio llunwyr polisi a sefydliadau cymorth yn uniongyrchol, gan helpu i greu rhaglenni mwy effeithiol ac wedi’u teilwra ar gyfer ffermwyr newydd yng Nghymru.
  • Tynnu sylw at heriau allweddol: Rydym yn gwybod bod rhwystrau unigryw ynghlwm â dechrau fferm o'r dechrau - o gael mynediad i dir a chyllid i lywio rheoliadau. Mae'r holiadur hwn yn gyfle i daflu goleuni ar yr heriau hyn.

Rydym yn annog pob ffermwr cenhedlaeth gyntaf/newydd ddyfodiaid i gwblhau'r holiadur hwn!

Mae'r holiadur wedi'i gynllunio i fod yn syml ac ni fydd yn cymryd llawer o'ch amser. Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.

Beth am adael eich ôl ar ddyfodol ffermio Cymru!

Cwblhewch yr arolwg