Llinellau sylfaen coetiroedd ar draws Ein Ffermydd
Canfyddiadau allweddol
- Cyfanswm yr arwynebedd coetir ar ffermydd a arolygwyd = 101.59ha o oddeutu 2,003Ha sy'n cyfateb i 5% o gyfanswm arwynebedd y fferm.
- Coetir llydanddail = 92.15ha sy'n cyfateb i 92% o gyfanswm yr arwynebedd coetir.
- Planhigfeydd conwydd = 9.44ha sy'n cyfateb i oddeutu 8% o gyfanswm yr arwynebedd coetir.
- Gwrychoedd llinellol = 158,689m yr oedd tua 7,000m ohonynt o dan 30 mlwydd oed.
- Brigdwf y coed aeddfed o fewn gwrychoedd llinellol 43.71ha (Mae lled brigdwf coed aeddfed o fewn y gwrych wedi'i osod ar 10m (dyma'r mesuriad cyfartalog lleiaf a nodwyd).
- Roedd yr holl goetiroedd heb eu rheoli
- Roedd coetiroedd yn lled-naturiol yn bennaf gyda <10% wedi'u dosbarthu fel coetiroedd hynafol.
Cefndir
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys arolygon a gynhaliwyd ar 15 fferm a oedd yn cymryd rhan yn Rhaglen Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, ac mae'r asesiad cychwynnol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu Asesiad Cyfalaf Naturiol ar y fferm (NCA).
Bydd yr angen am asesiad coetir a gwrychoedd yn benodol yn meithrin dealltwriaeth o'i gyflwr presennol, yn llywio rheolaeth effeithiol, yn bodloni gofynion rheoleiddio, yn monitro newid, ac yn gwella ei werth ecolegol, economaidd ac amwynder. Mae'n gam sylfaenol tuag at reoli coetir yn gyfrifol ac yn effeithiol, gan ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau gwybodus, diogelu a gwella gwerth y coetir, ac o bosibl cael mynediad at gymorth ariannol.
Pwrpas y gwaith
- Nodi'r mathau a'r maint o goetiroedd a choed nad ydynt yn rhan o goetir (gwrychoedd, coed unigol) sy'n bresennol ar ffermydd.
- Meintioli'r arwynebedd o orchudd coed mewn perthynas â chyfanswm maint daliad y fferm.
- Asesu arferion rheoli cyfredol ar gyfer y cynefinoedd hyn.
- Penderfynu ar bresgripsiynau ar gyfer gweithredu rhaglen o waith ar gyfer gwella.
- Nodi elfennau cyffredin a chysondebau ar draws y ffermydd a arolygwyd.
Canlyniadau
Tirwedd a Dosbarthiad Coetiroedd
Mae'r rhwydwaith Ein Ffermydd yn cynnwys coetiroedd amrywiol, yn bennaf mewn ardaloedd anghynhyrchiol ac maent wedi'u hategu gan grwpiau coed bach ger hen anheddau neu hen ffiniau caeau. Mae gan lawer o gaeau goed parcdir hynod, yn bennaf derw mes digoes a derw mes coesynnog, sy'n darparu lloches i dda byw ac yn rhoi hwb i fioamrywiaeth. Mae cynefin "coed pori" nodedig, un o flaenoriaethau’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, yn cefnogi fflora, ffawna a ffyngau unigryw, gydag anifeiliaid pori yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ei strwythur lled-agored.
Ymhlith y mathau o goetir mae Coetiroedd Ynn yr Ucheldir (rhywogaethau cymysg) a Choedydd Derw’r Ucheldir (sy'n cynnwys coed derw mes digoes a derw mes coesynnog yn bennaf, gyda rhywfaint o goed Bedw a Chriafol). O’u hamgylch, ceir coed Celyn, Criafol, Drain Gwyn a Choed Cyll, gyda choed Helyg Deilgrwn mewn ardaloedd gwlypach. Mae cymunedau cyfoethocach gyda choed Ynn a Llwyf Llydanddail yn ffynnu mewn ardaloedd sydd â phriddoedd mwy alcalin, tra bod amodau llaith yn cefnogi rhedyn, mwsoglau a llysiau'r afu amrywiol. Mae coetiroedd glan afon ar hyd cyrsiau dŵr yn hanfodol ar gyfer ecosystemau dŵr croyw ac maent yn cynnig cynefinoedd sylweddol, gydag ymyriadau diweddar fel teneuo a ffensys yn gwella eu swyddogaeth ac yn diogelu adnoddau dŵr.
Plotiau Conwydd
Mae tuag 8% o'r arwynebedd coetir yn cynnwys lleiniau conwydd heb eu rheoli, yn bennaf Ffynidwydd Douglas a Sbriws Sitka, a blannwyd rhwng yr 1960au a dechrau'r 1990au, i roi lloches i dda byw, yn ôl pob tebyg. Yn gyffredinol, nid yw'r lleiniau hyn yn cael eu rheoli, sy’n arwain at dwf crebachlyd a chynnyrch isel. Er bod "coed unig" ar yr ymylon yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad, mae ymarferoldeb cyffredinol lleiniau cysgod wedi dirywio, gan eu gwneud yn agored i ddifrod gwynt.
O safbwynt ecolegol, mae'r lleiniau hyn o werth bioamrywiaeth isel ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae eu hoedran yn eu gwneud yn addas ar gyfer cwympo, gan roi cyfle i ailstocio gyda rhywogaethau llydanddail brodorol amrywiol. Byddai hyn yn gwella amodau ecolegol, yn gwella lloches i dda byw, ac yn cynyddu gallu’r coetiroedd i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Disgwylir i dorri coed fod yn fuddiol yn ariannol, yn enwedig gyda chynlluniau cymorth amaethyddol yn y dyfodol.
Cyflwr Coetiroedd a Chyfleoedd Rheoli
Mae'r rhan fwyaf o goetiroedd ar y ffermydd mewn cyflwr ecolegol cymedrol i wael oherwydd diffyg rheolaeth weithredol. Fodd bynnag, mae cyfleoedd sylweddol i wella trwy deneuo strategol, plannu rhagor o rywogaethau brodorol gwahanol, a rheoli llystyfiant cystadleuol. Bydd arferion sy'n hyrwyddo adfywio naturiol a microgynefinoedd amrywiol hefyd yn gwella gwytnwch.
Mae potensial uchel ar gyfer creu coetir newydd ar draws y rhan fwyaf o ffermydd, a all alinio ag amcanion ffermio trwy ddarparu cysgod a lloches i anifeiliaid, wrth fod o fudd i fyd natur ar yr un pryd. Gall cymorth ariannol fod ar gael drwy gynlluniau fel y Cynllun Cynllunio Creu Coetir neu'r cynllun Grantiau Bach - Creu Coetir. Mae'r goedwedd ehangach, gan gynnwys coed y tu allan i goetiroedd diffiniedig, yn cyfrannu'n sylweddol at gysylltedd ecolegol, o fudd i fioamrywiaeth, iechyd y pridd, storio carbon, a lles da byw.
Iechyd Coed
Mae clefyd coed ynn yn bresennol ar bob fferm a arolygwyd, gan achosi dirywiad coed ynn a'u gwneud yn agored i heintiau eilaidd. Mae hyn yn peri risgiau iechyd a diogelwch sylweddol, yn enwedig yn agos at hawliau tramwy cyhoeddus, sy'n gofyn am ymyriadau rheoli. Gwelwyd clefyd phytophthora gwern hefyd ar ddwy fferm ar hyd cyrsiau dŵr.
Hanes Defnydd a Rheoli Coetiroedd
Yn hanesyddol, defnyddiwyd coetiroedd yn bennaf ar gyfer coed tân. Er bod y rhan fwyaf o ardaloedd wedi'u ffensio, roedd da byw yn aml yn cyrraedd parthau glannau trwy groestoriadau cyrsiau dŵr, gan rwystro adfywio naturiol. Er gwaethaf hyn, roedd ymylon coetir yn gyson yn darparu lloches werthfawr i dda byw.
Wrth symud ymlaen, mae cyfleoedd i arallgyfeirio defnydd coetir a gwella gwerth ecolegol. Mae ffensys cadarn ar hyd cyrsiau dŵr yn hanfodol i atal mynediad da byw ac annog adfywio. Gallai archwilio mentrau y tu hwnt i goed tân, megis cynhyrchu pren ar raddfa fach, cynhyrchion coedwig nad ydynt yn bren (e.e., chwilota am fwyd), neu hyd yn oed mynediad addysgol, gynhyrchu manteision a refeniw ychwanegol, gan gydbwyso defnydd economaidd ag adfer ecolegol.
Trosolwg o wrychoedd ar ein ffermydd: eu Cyflwr, eu Rheoli a’u Gwerth Ecolegol
Mae gwrychoedd yn nodweddion annatod o'n tirweddau fferm, sy'n gwasanaethu fel coridorau ecolegol hanfodol, yn darparu lloches i dda byw, ac yn cyfrannu'n sylweddol at fioamrywiaeth. Yn ystod yr arolwg, casglwyd gwybodaeth am y rhwydweithiau gwrychoedd ar draws ein blociau fferm, gan asesu eu cyflwr presennol, arferion rheoli, a’u harwyddocâd ecolegol.
Mae ein ffermydd yn cwmpasu oddeutu 158,689metr o wrychoedd. Mae cyflwr y gwrychoedd hyn yn amrywio ar draws y gwahanol ardaloedd tir.
Casgliad
Mae'r goedwedd ehangach ar ein ffermydd yn gadarnhaol iawn. Mae rheoli gwrychoedd yn gyffredinol yn dda iawn, gan arwain at rwydwaith o wrychoedd sy'n gyffredin i'r ardaloedd ac sy'n arddangos manylebau strwythurol sy’n uwch na'r cyfartaledd. Mae llawer o'r gwrychoedd hyn yn gyfoethog o rywogaethau, yn gadarn, ac mewn cyflwr da, ac wedi eu hasesu gan farnu bod ganddynt werth ecolegol uchel.
Mae'r ffensys dwbl a weithredwyd yn ystod gwaith adfer o dan gynlluniau
amaeth-amgylcheddol wedi cyfrannu'n sylweddol at dwf bywiog a strwythur cadarn gwrychoedd, gan eu galluogi i gynyddu’n effeithiol gan greu strwythur cadarn. Er eu bod wedi'u cynllunio'n bennaf i gryfhau ffiniau caeau, mae'r gwrychoedd sefydledig hyn bellach yn darparu manteision amlswyddogaethol i natur a da byw.
Nodwedd nodedig yw'r nifer gymharol fawr o goed gwrychoedd aeddfed a nifer llai o goed aeddfed mewn caeau. Mae rhai o'r rhain, ynghyd â rhai coed o fewn coetiroedd, hyd yn oed yn bodloni meini prawf coed hynod, gan nodi eu hoedran uwch a'u harwyddocâd ecolegol.
Er bod coetiroedd yn dioddef o ddiffyg rheolaeth a chlefyd coed ynn sydd ar led ar hyn o bryd, mae yna gyfleoedd clir, ariannol ddoeth ar gyfer ymyrraeth weithredol, adfer, a phlannu newydd. Mae'r rhwydwaith gwrychoedd wedi'i reoli'n dda yn dangos effaith gadarnhaol ymyriadau wedi'u targedu. Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen brys am ymrwymiad o'r newydd i ddiogelu a gwella'r asedau naturiol hyn, gan gydnabod y rhan ganolog y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth adeiladu tirweddau Cymreig gwydn, bioamrywiol a chynhyrchiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech gael copi o'r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.