Graddnodi Gwasgarwyr Gwrtaith a Phrofion Hambyrddau: Asesiad o Gywirdeb ac Effaith Ariannol
Canlyniadau allweddol:
Gwelwyd cywirdeb y gwasgaru, gyda 60% o beiriannau gwasgaru’n gofyn am addasu i gywiro problem fel gor-daflu, tan-daflu, neu anghydbwysedd. Adnabod 21 o ddiffygion mecanyddol yn gynnar gan gynnwys llafnau wedi'u treulio, agorfeydd wedi’ camosod, a chynhyrfwyr diffygiol. Cafodd llawer eu datrys ar y safle, gyda’r canlyniadau canlynol:
- Roedd y colledion ariannol a osgowyd yn amrywio o £1.19 i £26 yr hectar, gan ddibynnu ar gyflwr y cynnyrch a'r peiriant.
- Mae llai o risg o drwytholchi maetholion trwy well cywirdeb gwasgaru yn helpu i atal gwrtaith rhag cyrraedd gwrychoedd, ymylon caeau, neu gyrsiau dŵr, gan gefnogi’r gwaith o reoli maetholion yn gyfrifol.
- Gwell dealltwriaeth ymysg ffermwyr o sut i adnabod problemau cyffredin a deall effaith patrymau lledaenu ar gynnyrch a chost.
Cefndir:
Pan fydd cywirdeb troellwyr gwrtaith yn llai na'r gorau posibl, mae'n creu patrwm lledaenu sy'n arwain at y canlynol:
- Gwrtaith yn cael ei daflu'n uniongyrchol i gyrsiau dŵr, gwrychoedd a stribedi byffro, gan nad yw'r gweithredwr yn ymwybodol o’r gor-daflu.
- Colledion ariannol – bydd cost y gwrtaith a gaiff ei wastraffu a phremiymau cnydau yn cael eu colli.
- Problemau adeg gynaeafu (glaswellt yn gorwedd yn wastad ac ati).
- Ceisiadau ychwanegol gan y gweithredwr wrth iddo sylwi ar streipiau mewn cnydau - mae hyn yn achosi mwy o ddifrod, costau uwch, a gall arwain at ddŵr ffo wyneb.
Pwrpas y gwaith:
- Pennu’r arbediad ariannol y gellid ei gyflawni ar draws nifer o Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio trwy raddnodi peiriannau gwasgaru gwrtaith yn gywir a’u profi â hambyrddau.
- Lleihau'r risg o drwytholchi er mwyn sicrhau ansawdd dŵr uchel mewn dalgylchoedd dŵr ledled Cymru.
- Sicrhau bod gwrtaith yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl ar ffermydd Cymru er mwyn sicrhau diogelwch gweithredwyr a'r cynnyrch cnydau gorau posibl.
Yr hyn a wnaethom:
Fel rhan o'r prosiect Ein Ffermydd hwn a gynhaliwyd ledled Cymru, cafodd peiriannau gwasgaru gwrtaith ar 15 fferm eu graddnodi a’u profi â hambyrddau. Dilynodd y gwasanaeth hwn broses strwythuredig a gynlluniwyd i asesu cyflwr y peiriant a chywirdeb gwasgaru gwrtaith trwy'r camau canlynol:
- MOT y peiriant
- Dadansoddiad o Wrtaith
- Prawf Hambyrddau Gwrtaith
- Adroddiad Profion Hambyrddau
Lle mae peiriant yn rhoi patrwm lledaenu annerbyniol, mae'r peiriant yn cael ei addasu a'i ail-brofi nes bod patrwm lledaenu derbyniol yn cael ei gyflawni.
Canlyniadau:
Y prif broblemau a achosir gan ddulliau gwael o gynnal peiriannau a lledaenu gwrtaith yn anghywir yw diogelwch gweithredwyr, llygredd amaethyddol, a cholli cynnyrch. Rhaid i'r patrwm gwasgaru fod yn gyfartal ar draws lled y bowt cyfan, ar gyfer pob math o wrtaith sy'n cael eu gwasgaru. Ni fydd y gosodiadau ar gyfer un math o wrtaith yn darparu gwasgariad cyfartal i un arall; mae gan bob gwrtaith nodweddion balistig unigryw sy'n effeithio ar sut y dylid gosod y peiriant i gyflawni’r cywirdeb gorau posibl.
Y prif ffyrdd y gall gwrtaith gael ei wasgaru’n anghywir yw:
- Gor-daflu: mae'r peiriant yn taflu'r gwrtaith yn rhy bell, sy'n golygu y ceir gwrtaith gormodol na all y planhigyn ei ddefnyddio hanner ffordd rhwng pob llwybr tractor.
- Tan-daflu: nid yw'r peiriant yn taflu'r gwrtaith yn ddigon pell, sy'n golygu gwrtaith gormodol wrth ymyl pob llwybr lle mae'r tractor yn gyrru. Unwaith eto, ni all y planhigyn ddefnyddio'r gwrtaith dros ben.
- Anghytbwys o'r chwith i'r dde: mae'r peiriant yn defnyddio gwahanol symiau o wrtaith ar y naill ochr a'r llall i led y bowt, sy'n golygu bod gwrtaith dros ben ar un ochr i lwybr y tractor o gymharu â'r llall.
O'r peiriannau a brofwyd, addaswyd pedwar peiriant ar gyfer gor-daflu gwrtaith, addaswyd pedwar peiriant ar gyfer tan-daflu gwrtaith, ac addaswyd un ar gyfer patrwm anghytbwys o'r chwith i'r dde.
Gellir asesu goblygiadau ariannol patrwm gwasgaru afreolaidd i nodi'r golled fel cost fesul hectar. Mae Ffigur 1 yn dangos y golled ariannol trwy wasgaru gwrtaith yn afreolaidd ar wahanol gyfernodau amrywiad (CVs).
Ffigur 1. Colled ariannol drwy wasgaru gwrtaith Nitrogen yn afreolaidd, ar £380 y dunnell
Ar gyfer y 9 prawf hambwrdd nad oeddent yn dangos patrymau gwasgaru boddhaol, mae Tabl 1 yn tynnu sylw at yr arbedion ariannol yn seiliedig ar silwair toriad cyntaf, sef y cnwd mwyaf cyffredin a dyfir gan y ffermydd a brofwyd. Mae'r cynhyrchion gwrtaith a nodwyd yn seiliedig ar ddewisiadau prynu a hoff ddewis y ffermydd, ac ni ddylanwadwyd arnynt gan y prosiect hwn.
Tabl 1. Colled ariannol sydd wedi'i liniaru trwy wella'r patrwm gwasgaru
* Nid Nitrogen ar ei ben ei hun mo’r cynnyrch; mae’r golled ariannol yn debygol o fod yn llai nag ar gyfer Nitrogen ar ei ben ei hun, fodd bynnag, mae dadansoddiad yn arwydd y byddai colled yn dal i fod yn bresennol.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm chi:
- Dylid monitro rhannau sy’n treulio yn rheolaidd a'u disodli cyn gynted ag y bydd angen gan mai dyma'r achos mwyaf cyffredin o anghywirdeb.
- Bydd profion blynyddol yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd y peiriant yn cael ei gynnal yn iawn a thrwy hynny yn lleihau'r siawns o lygredd amaethyddol pan fydd yn cael ei ddefnyddio.
- Os hoffech wneud hyn ar eich fferm eich hun, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu lleol i drafod sut y gall Cyswllt Ffermio eich cynorthwyo drwy gynnal cymhorthfa sydd wedi’i ariannu’n llawn ar eich fferm.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech gael copi o'r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.