*Nid yw Teifi yn gallu derbyn ceisiadau mentora ar hyn o bryd. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.*
Pam fyddai Teifi yn fentor effeithiol
- Mae Teifi wedi bod yn gweithio yn y diwydiant bwyd a ffermio ers gadael yr ysgol, gan ddechrau yn y diwydiant llaeth gyda chwmni Unigate Foods yn llaethdy Castell Newydd Emlyn, cyn symud ymlaen at swydd datblygu cynnyrch, ac yna dychwelyd i’r fferm deuluol.
- Dan arweiniad Teifi, a’i bartner Jennifer (sydd hefyd yn fentor), mae’r fferm deuluol wedi tyfu o 22.5 erw i 100 erw trwy brynu a rhentu tir.
- Mae Teifi wedi canolbwyntio ar arallgyfeirio o’r cychwyn, ac mae’n credu mai adwerthu o’r fferm oedd yr ateb i wneud y fferm yn hyfyw.
- Mae’r busnes siop fferm, Siop Fferm Llwynhelyg, wedi galluogi Teifi i aros ar y fferm deuluol ac wedi arwain at sawl llwyddiant yng Ngwobrau Gwir Flas Cymru a gwobrau busnes lleol y DU. Nhw sy’n dal y wobr ar gyfer ‘Adwerthwr Annibynnol Gorau 2016 – Cymru’ ar hyn o bryd.
- Mae Teifi yn awyddus iawn i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth y mae wedi eu casglu o ganlyniad i’w brofiad i gynorthwyo busnesau ffermio eraill i ddod yn fwy cynaliadwy ac i wella economi wledig Cymru.
- Mae Teifi hefyd yn ddwyieithog ac yn gyfforddus yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg
- Mae Teifi yn gyfforddus wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill y cyfryngau (teledu/radio) yn ddwyieithog er mwyn hyrwyddo neu wneud sylwadau ynglŷn â bwyd a ffermio.
Busnes fferm bresennol
- Yn berchen ar 50 erw ac yn rhentu 50
- Menter siop fferm yn arbenigo mewn bwyd a diod Cymreig
- Tatws a dyfir gartref
- Tyfu llysiau a pherlysiau ar raddfa fechan
- Glaswellt i’w bori, ar gyfer silwair a gwair
- Buches 50-60 o wartheg
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- Cheshire College of Agriculture: Technoleg Llaeth
- 34 mlynedd o brofiad o redeg siop fferm
- Cwrs hyfforddiant rheolaeth LEAD
- Beirniad yng ngwobrau Great Taste, cynnyrch Cymreig
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT YM MYD BUSNES
"Byddwch yn barod i ddysgu pethau newydd bob amser ac i gadw gwybodaeth gyfredol yn ymwneud ag arloesedd a thechnolegau newydd."
"Byddwch yn wrandäwr da er mwyn casglu awgrymiadau a syniadau defnyddiol gan eraill sydd eisoes wedi rhoi cynnig arnynt ac wedi gweld eu bod yn gweithio!"
"Byddwch yn ddysgwr gydol oes – mae’n syndod pa mor sydyn all arloesedd newydd newid arferion ffermio presennol."
"Ceisiwch gael mwy nag un dewis er mwyn lleihau’r posibilrwydd o fethu. Fel arfer, mae ffordd arall i symud ymlaen ac i gwrdd â’ch amcanion."