Ty Coch Diweddariad ar y prosiect - Awst 2025

Beth sydd wedi cael ei wneud?

Ar ôl plannu, cafwyd haf sych iawn ac nid yw’r india-corn wedi tyfu fel y byddem wedi’i obeithio.
Casglwyd profion meinwe ar ddechrau mis Mehefin i wirio am ddiffygion maeth. Roedd y canlyniadau’n dangos diffyg Magnesiwm, fel y gwelir yn Ffigur 1 isod. 

Ffigur 1. Dadansoddiad o india-corn ym mis Mehefin 2025.

Dadansoddiad

Canlyniad

Canllaw

Dehongliad

Sylwadau

Nitrogen* (%)

4.63

3.5

Normal

Lefel ddigonol.

Ffosfforws* (%)

0.57

0.35

Normal

Lefel ddigonol.

Potasiwm* (%)

3.85

3

Normal

Lefel ddigonol.

Calsiwm* (%)

0.39

0.3

Normal

Lefel ddigonol.

Magnesiwm* (%)

0.18

0.25

Isel

BLAENORIAETH AR GYFER TRINIAETH.

Sylffwr* (%)

0.26

0.1

Normal

Lefel ddigonol.

Boron* (ppm)

4.6

7

Isel

Blaenoriaeth isel. Gweler y sylwadau isod.

Copr* (ppm)

7

7

Normal

Lefel ddigonol.

Haearn* (ppm)

445

75

Normal

Lefel ddigonol.

Manganîs* (ppm)

73.8

40

Normal

Lefel ddigonol.

Molybdenwm* (ppm)

0.48

0.2

Normal

Lefel ddigonol.

Sinc* (ppm)

41.9

30

Normal

Lefel ddigonol.

Yn dilyn y dadansoddiad, cafodd y cnwd ei chwistrellu gyda chynnyrch Croplift pro sy’n cynnwys magnesiwm. Gadawyd ardal reoli heb driniaeth er mwyn cymharu.

Yn dilyn chwistrellu a glawiad ar ôl cyfnod sych, roedd y cnwd yn edrych llawer gwell. Cynhaliwyd profion meinwe pellach wythnos ar ôl chwistrellu. Dangoswyd fod y cnwd yn isel yn y rhan fwyaf o faetholion. Roedd lefelau Sylffwr, Magnesiwm, a Manganîs yn isel iawn ac roedd lefelau Sinc a Nitrogen ychydig yn isel. Roedd lefelau Calsiwm yn isel iawn ond nid oedd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y cnwd hwn.

Fe wnaethom ni benderfynu canolbwyntio ein hymdrechion ar gywiro’r maetholion a oedd yn dangos lefelau isel iawn yn y profion. Cafodd y cae ei chwistrellu o gwmpas 10 Gorffennaf gyda’r cynnyrch canlynol -

Mancozin - 1.25l/ha (yn cyflenwi’r Manganîs a’r Sinc)
Efficient N - 20l/ha (yn cyflenwi’r Nitrogen)
Epsotop - 5kg/ha (yn cyflenwi’r Magnesiwm a’r Sylffwr)

Beth nesaf?

●    Cynhaliwyd profion ar y cae unwaith eto ar 10 Awst (y llain gyda thriniaeth a’r llain heb driniaeth) ac rydym yn aros am y canlyniadau.