Adroddiad terfynol: System dan do newydd i loi ar fferm Graianfryn i wella lles anifeiliaid a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau
Prif ganlyniadau:
- Roedd y cynnydd pwysau byw (DLWG) cyfartalog ar gyfer y lloi yn amrywio o 0.60 kg/dydd i 0.83 kg/dydd, gyda rhai triniaethau o bosibl yn cael effaith fuddiol.
- Disgwylir i ddyluniad siediau effeithiol a gosodiad ymarferol arwain at well lefelau lles a’r gallu i wirio iechyd yn gyflymach, gan leihau amser llafur.
- Mae gwella draeniad ac awyriad yn cyfrannu at wella iechyd a lles anifeiliaid.
Cefndir:
Nod y prosiect hwn ar fferm Graianfryn oedd gwella iechyd a lles lloi trwy ymyriadau strategol. Bu’r fferm yn cydweithio’n agos gyda milfeddyg y fferm i nodi a chyflwyno newidiadau allweddol. Rhoddwyd ffocws ar fynd i’r afael â heriau presennol yn ymwneud â siediau a rheolaeth lloi, gan sicrhau amgylchedd iachach ar gyfer stoc ifanc.
Diben y gwaith:
Prif amcanion y prosiect hwn oedd:
- Optimeiddio dyluniad siediau lloi, gan ganolbwyntio ar ddraeniad, awyriad ac arwahanu llociau i leihau trosglwyddiad clefydau a gwella amodau amgylcheddol.
- Gwella siediau lloi trwy ychwanegu opsiynau cyfoethogi pellach yn y llociau.
- Integreiddio strategaethau lles ehangach, gan gynnwys protocolau bioddiogelwch ar gyfer prynu lloi a mireinio rhaglenni brechu a maeth.
Yr hyn a wnaed:
Fe wnaethom ni ail-ddylunio’r siediau lloi i sicrhau’r draeniad gorau posibl i gadw deunydd gorwedd yn sych, ac awyriad effeithiol i atal drafft gan hefyd sicrhau cylchrediad aer digonol. Roedd dau o’r pum lloc lloi yn cynnwys ardal ar gyfer bwrn gwellt yng nghefn y lloc er mwyn hwyluso’r gwaith porthi a gosod gwellt gan hefyd gynnig cysgod a mwy o wres ar gyfer lloi iau. Roedd pedwar o’r llociau hefyd yn cynnwys adnoddau cyfoethogi, sef naill ai pêl rwber neu declyn BiteStar yn hongian o’r to.
Dyma’r triniaethau a ddefnyddiwyd ym mhob lloc:
- Lloc 1: Rheolaeth
- Lloc 2: Dim byrnau gwair a Bitestar
- Lloc 3: Dim byrnau gwellt a Phêl
- Lloc 4: Bwrn gwellt a Bitestar
- Lloc 5: Bwrn gwellt a Phêl
Fe wnaethom ni hefyd gyflwyno llociau wedi’u harwahanu i atal traws halogiad a gwella protocolau bioddiogelwch y fferm. Ochr yn ochr â’r newidiadau strwythurol hyn, fe wnaethom ni adolygu a gwella mesurau bioddiogelwch ar gyfer lloi sydd newydd eu prynu a mireinio protocolau brechu a maeth presennol i gefnogi iechyd cyffredinol y lloi. Trwy gydol y prosiect, defnyddiwyd tagiau clust Smartbell sy’n mesur symudiad a thymheredd lloi er mwyn casglu data a monitro iechyd lloi.
Canlyniadau:
Mae’r prosiect wedi cyflawni gwelliannau diriaethol o ran iechyd lloi a lles cyffredinol. Mae prif ganlyniadau’n cynnwys:
- Gwelliannau i ddyluniad siediau:
- Mae gwella draeniad a sicrhau awyriad effeithiol wedi arwain at ddeunydd gorwedd sychach, gan leihau problemau’n ymwneud â lleithder yn sylweddol. Mae 400 o loi wedi bod drwy’r system dan do newydd hyd yma heb unrhyw achosion difrifol o niwmonia na marwolaethau.
- Gosodiad ymarferol:
- Mae dyluniad hygyrch y llociau yn hwyluso arferion gofal dyddiol mwy effeithlon, gan olygu bod bwydo, dyfrio a thasgau glanhau yn llawer llai dwys o ran llafur.
- Iechyd lloi a bioddiogelwch:
- Mae mesurau bioddiogelwch gwell yn cael eu gweithredu’n llym wrth brynu lloi newydd, gan leihau cyflwyniad pathogenau i’r fferm.
- Mae protocolau brechu a maeth wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru, gan ddarparu amddiffyniad cadarn yn erbyn clefydau lloi a chefnogi’r twf gorau posibl.
- Cyfraddau twf lloi (Enillion Pwysau Byw Dyddiol (DLWG)):
- Roedd cynnydd pwysau byw (DLWG) cyfartalog y lloi yn amrywio o 0.60(±0.03) kg/dydd (Lloc 2) i 0.83(±0.04) kg/dydd (Lloc 5), fel y gwelir yn Ffigur 1 isod. Er bod twf yn arafach yn Lloc 2, roedd yr enillion pwysau byw dyddiol yn y llociau eraill o fewn yr ystod ddisgwyliedig ar gyfer lloi bîff. Mae hyn yn awgrymu y gallai rhai triniaethau fod wedi effeithio’n gadarnhaol ar dwf, ond bydd angen ailadrodd y broses i gael canfyddiadau dibynadwy.
- Roedd cynnydd pwysau byw (DLWG) cyfartalog y lloi yn amrywio o 0.60(±0.03) kg/dydd (Lloc 2) i 0.83(±0.04) kg/dydd (Lloc 5), fel y gwelir yn Ffigur 1 isod. Er bod twf yn arafach yn Lloc 2, roedd yr enillion pwysau byw dyddiol yn y llociau eraill o fewn yr ystod ddisgwyliedig ar gyfer lloi bîff. Mae hyn yn awgrymu y gallai rhai triniaethau fod wedi effeithio’n gadarnhaol ar dwf, ond bydd angen ailadrodd y broses i gael canfyddiadau dibynadwy.
Ffigur 1: Enillion Pwysau Byw Dyddiol cyfartalog o fewn y pum lloc
- Mewnwelediad technoleg Smartbell
- Roedd arsylwadau data tymheredd o’r tagiau clust yn dangos gwerthoedd a oedd weithiau ychydig yn is neu’n uwch o lawer na’r disgwyl ar gyfer tymheredd craidd y corff, heb unrhyw arwyddion o salwch. Mae’n bosibl bod yr amrywiadau hyn yn gofyn am ymchwiliad pellach i ffactorau megis cyswllt y synhwyrydd gwres gyda’r glust.
- Roedd dadansoddiad o’r hysbysiadau Smartbell mewn perthynas â thrin salwch yn dangos patrymau amrywiol. Ar gyfer 7 o’r 16 llo a dderbyniodd driniaeth ar gyfer salwch, ni chofnodwyd unrhyw hysbysiadau. Fodd bynnag, ar gyfartaledd, cafwyd hysbysiadau ar gyfer 4 llo ar y diwrnod cyn y driniaeth, ac ar gyfer 1 llo dri diwrnod cyn y driniaeth, a allai weithredu fel dangosydd cynnar. Cafwyd rhywfaint o hysbysiadau hefyd ar ôl rhoi’r driniaeth.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm: 5 cam tuag at wella iechyd lloi
- Gwneud y gorau o ddyluniad siediau: Cyflwyno newidiadau i wella draeniad y sied (e.e. lloriau ar oleddf) ac awyriad (e.e. tyllau awyr addasadwy, gosod ffaniau mewn mannau strategol). Ystyriwch greu llociau wedi’u harwahanu i atal lledaeniad clefydau rhwng gwahanol grwpiau oedran neu anifeiliaid newydd.
- Symleiddio gweithrediadau o ddydd i ddydd: Dyluniwch eich siediau i sicrhau mynediad rhwydd ar gyfer bwydo, dyfrio a glanhau. Bydd hyn nid yn unig yn arbed llafur ond hefyd yn eich caniatáu i gynnal gwiriadau iechyd mewn modd effeithlon.
- Cyfoethogi yn y llociau: Er nad yw’r prosiect hwn yn gallu mesur effeithiau cyfoethogi’r amgylchedd ar berfformiad lloi yn bendant, ceir rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu, gyda hylendid priodol, eu bod yn ffordd rad o hybu lles lloi mewn amgylcheddau dan do.
- Gwella bioddiogelwch: Datblygwch a dilynwch gynllun bioddiogelwch llym ar gyfer prynu lloi newydd. Mae hyn yn cynnwys arwahanu anifeiliaid newydd, cynnal profion am glefydau cyffredin, a gweithredu protocolau hylendid llym i atal cyflwyno pathogenau i’r fuches bresennol.
- Adolygu protocolau iechyd: Gweithiwch gyda’ch milfeddyg i adolygu a diweddaru eich polisi brechu a’ch trefn fwydo i sicrhau bod targedau twf yn cael eu bodloni ac i ddiogelu iechyd y lloi.