Llwyngwair Home Farm Diweddariad ar y prosiect - Awst 2025
Camau gweithredu hyd yma:
- Gwasgarwyd y biosymbylydd gwymon am y tro cyntaf ar 30 Mai 2025 ar gyfradd o 7.5L/ha gan ddefnyddio chwistrellydd bŵm 24m
- Cymerwyd yr ail doriad silwair ar 26 Mai 2025
- Gwasgarwyd y cynnyrch am yr eilwaith yn ystod wythnos 14 Gorffennaf 2025 ar ôl gwasgaru slyri ar 10 Gorffennaf 2025
- Casglwyd samplau pridd, cynnyrch biomas fesul cwadrad (1m x 1m), samplau meinwe dail a dadansoddiad o’r porthiant o’r cae arbrofol ar 3 Gorffennaf 2025. Casglwyd pob un o’r samplau cynnyrch biomas o dri phwynt fesul llain, fel y gwelir yn Ffigur 1.
Ffigur 1: Cynnyrch biomas ar gyfer pob llain (data ar gael yn Saesneg yn unig)
Er nad oedd y cae yn dangos unrhyw wahaniaethau gweledol, hyd yn oed gyda’r llain lle na ddefnyddiwyd unrhyw wrtaith o gwbl, mae’r data biomas yn dangos gostyngiadau yn unol â lleihau mewnbynnau gwrtaith; fodd bynnag, roedd gostyngiad o 30% mewn gwrtaith yn dangos gostyngiad o 2.4% yn unig mewn cynnyrch biomas.