Rachel Phillips
Enw
Rachel Phillips
Sefydliad
Agri Advisor Legal LLP
Rachel yw Pennaeth yr adran Eiddo a Chynllunio yn Agri Advisor ac mae ganddi brofiad helaeth o ddelio ag ystod eang iawn o faterion eiddo, gan gynnwys gwerthu a phrynu ffermydd/ffermdir; Cofrestriadau cyntaf cymhleth o Deitl; prydlesi safleoedd busnes yn gyffredinol; Tenantiaethau amaethyddol; Cytundebau Opsiwn a datblygu tir at ddibenion masnachol a/neu breswyl.
Daeth Rachel yn Gymrawd Cymdeithas Cyfraith Amaethyddol yn 2016, sydd wedi arwain at ddatblygu ei gwybodaeth arbenigol am gyfraith amaethyddol yn gyffredinol ac yn arbennig yr agweddau hynny sy'n berthnasol i denantiaethau amaethyddol, hawliau tramwy, opsiynau, ynni adnewyddadwy, pryniannau a morgeisi.
Mae ganddi brofiad o ddelio â'r rhaniad asedau rhwng partneriaethau (yn enwedig partneriaethau ffermio teulu) gan ystyried goblygiadau treth a chysylltu â chynghorwyr arbenigol eraill lle bo angen.
Ardaloedd
Gogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin a Chanolbarth Cymru
Ieithoedd
Saesneg