Diweddariad ar y prosiect: Mis Hydref 2025

Beth sydd wedi cael ei wneud?

Cynhaliwyd archwiliad mwynau drwy raglen Cyswllt Ffermio yn ystod gwanwyn/haf 2025 er mwyn asesu’r holl borthiant ac ychwanegion a roddir i’r defaid, gan gymharu cyfanswm cymeriant prif fwynau ac elfennau hybrin gyda gofynion y stoc.

Fe wnaeth yr archwiliad amlygu’r materion canlynol, fel y nodir yn Nhabl 1:

Problem

Effaith

Cam gweithredu a argymhellir

Cymhareb K:Mg uchel

Risg o ddera’r borfa mewn anifeiliaid sy’n pori.

Ychwanegu magnesiwm.

Cymhareb K:Na uchel

Diffyg sodiwm; effeithio ar flasusrwydd a swyddogaeth y nerfau.

Cynyddu ychwanegion sodiwm.

Lefelau seleniwm isel

Imiwnedd yn gwanhau, cyfradd twf gwael, clwy’r cyhyrau gwyn.

Bolws neu ddrensh seleniwm.

Lefelau cobalt isel

Diffyg fitamin B12; cyfradd twf gwael a cholli cyflwr.

Ychwanegu cobalt.

Lefelau ïodin isel

Problemau atgynhyrchu, goitr mewn ŵyn, cyfraddau twf gwael a cholli cyflwr.

Targedu ychwanegion ar gyfer meysydd sydd wedi’u heffeithio.

Lefelau S a Mo (ymyriad copr)

Llai o argaeledd copr; cot afliwiedig, cloffni.

Cynyddu ychwanegion copr yn ofalus, neu ddefnyddio ffurfiau y gellir eu rhoi ar ffurf brechiad.

Felly, penderfynwyd creu arbrawf i gymharu drensh parod gyda drensh elfennau hybrin a gymysgwyd gartref gan ganolbwyntio ar y materion a fyddai’n effeithio ar ŵyn sy’n tyfu (Seleniwm, Cobalt, Ïodin a Chopr).

Cafodd oddeutu 150 o ŵyn Mynydd Cymreig gwryw eu dyrannu ar hap i un o dri grŵp triniaeth ar 4 Gorffennaf, Tabl 2.

Tabl 2: Grwpiau a ddyrannwyd

Enw’r grŵp

Grŵp 1

Grŵp 2

Grŵp 3

Triniaeth

Rheoli

Rheoli + lefelau Cu uwch

Rysáit cartref + lefelau Cu uwch

Nifer yr ŵyn

50

50

50

Drensh a ddefnyddiwyd

Drensh mwynau parod a brynwyd i mewn, yn cynnwys lefelau isel o Cu (cynnyrch a ddefnyddir fel arfer ar y fferm)

Drensh mwynau parod a brynwyd i mewn, nad yw’n cynnwys unrhyw Cu (fersiwn o’r cynnyrch a ddefnyddir fel arfer ar y fferm nad yw’n cynnwys Cu)

Drensh rysáit cartref, yn cynnwys Co, Se ac I

Cost y drensh

£26.20/litr

£24.80/litr

£3.11/litr

Amserlen rhoi’r drensh

Pythefnos cyn diddyfnu a phob 6 wythnos wedi hynny.

Pythefnos cyn diddyfnu a phob 6 wythnos wedi hynny.

Pythefnos cyn diddyfnu, pythefnos ar ôl diddyfnu a phob tair wythnos wedi hynny hyd ddiwedd y prosiect.

Coparods – 12.7c/capsiwl

Heb ei roi

Rhoi capsiwl Cu bythefnos cyn diddyfnu er mwyn cynyddu cyfanswm Cu mewn ychwanegion.

Rhoi capsiwl Cu bythefnos cyn diddyfnu er mwyn cynyddu cyfanswm Cu mewn ychwanegion.

Ar 16 neu 17 Gorffennaf, derbyniodd pob un o’r ŵyn y driniaeth gyntaf. Rhoddwyd ail driniaeth i’r ŵyn yn grŵp 3 ar 11 Awst, a rhoddwyd y driniaeth olaf i bob un o’r ŵyn ar 4 Medi. Ar yr un diwrnod, casglwyd samplau gwaed gan chwe oen yn y grŵp triniaeth gan filfeddyg.

Yn anffodus, mae cyflenwadau glaswellt wedi bod yn brin drwy’r haf o ganlyniad i’r tywydd sych a gan fod y caeau wedi cael eu tynnu o’r cylchdro ar gyfer eu hail-hau, felly mae cyfradd twf yr ŵyn wedi bod yn siomedig. Cofnodwyd rhywfaint o broblemau iechyd hefyd, gydag ambell achos o gynrhon.

Ar 4 Medi, gwelwyd trogod ar rai o’r ŵyn, a chadarnhaodd profion gwaed bresenoldeb twymyn a gludir gan drogod (tymheredd uchel, diffyg chwant bwyd, cyfradd anadlu uwch, colli pwysau ac ati). Cafodd yr ŵyn hyn eu trin yn unol â chanllawiau’r milfeddyg a’u tynnu o’r arbrawf.

Roedd cynnydd pwysau pob grŵp yn debyg iawn yn ystod y cyfnod diddyfnu ac ar ôl diddyfnu.

Cymerwyd samplau gwaed ar ddiwedd y 6 wythnos gyntaf, gan gadarnhau bod lefelau seleniwm yn uwch na’r lefel darged, roedd lefel copr ar ochr uchaf yr ystod a argymhellir ac roedd lefel cobalt (Fitamin B12) yn isel ar gyfartaledd yn y grwpiau rheoli a rheoli gyda Coparods, ond yn uwch na’r trothwy ar gyfer y cymysgedd cartref. Mae hyn yn awgrymu bod rhoi triniaeth drensh yn fwy rheolaidd (bob tair wythnos) yn effeithiol ar gyfer cynnal lefelau cobalt na rhoi triniaeth drensh bob chwe wythnos gyda drensh parod. Roedd lefelau ïodin yn isel ym mhob un o’r ŵyn.

Camau nesaf

Mae’r arbrawf yn parhau, a gyda’r ŵyn bellach yn pori’r porfeydd gweddilliol a’r caeau sydd wedi’u hail hau gyda meillion coch, rydym yn disgwyl gweld cynnydd pwysau byw dyddiol yn cynyddu ar draws pob grŵp.

Bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd eto ar ddiwedd yr ail gyfnod o chwe wythnos i barhau i fonitro lefelau mwynau. Byddwn hefyd yn cofnodi pwysau’r holl ŵyn bob tair wythnos nes i’r arbrawf ddod i ben ar 26 Tachwedd.
 

Ffigur 1: Arbrawf ar waith ar fferm Brynllech