Adroddiad Terfynol Penyparc – Effeithlonrwydd llafur ac elw ar fuddsoddiad mewn technoleg

Paratowyd gan Conor Hogan, Rheolwr Rhaglenni Llaeth, Teagasc Moorepark, Iwerddon

Prif ganlyniadau

  • Mae’r sefyllfa gref bresennol o ran gosodiad a chyfleusterau’r fferm yn lleihau’r angen am fuddsoddiad brys. Dylid edrych ar dechnolegau yn nhermau nodau hirdymor.
  • Roedd offer bwydo lloi awtomatig i’w weld yn opsiwn posibl yng nghyd-destun Penyparc – helpu i reoli llwyth gwaith yn ystod cyfnodau prysur. Roedd yn cynnig elw ar fuddsoddiad o 14% gyda chyfnod ad-dalu o 7 mlynedd.
  • Roedd buddsoddiad mewn coleri gwartheg yn cynnig elw o 7% ar fuddsoddiad a chyfnod ad-dalu o gyfanswm o 14 mlynedd ar berfformiad presennol y busnes/y fuches.

Cefndir

  • Canolbwyntio ar wella perfformiad y fferm, effeithlonrwydd llafur, a chydbwysedd bywyd gwaith trwy dechnolegau cost effeithiol.
  • Roedd cyfleusterau presennol yn fodern, yn effeithlon ac wedi’u gosod yn dda gan gynnig llinell sylfaen dda.

Diben y gwaith

  • Gwerthuso elw ar fuddsoddiad bras ar gyfer offer awtomatig i ganfod arwyddion gofyn tarw, a bwydo lloi
  • Nodi cyfleoedd eraill i wella perfformiad y fferm a chydbwysedd bywyd gwaith

Canlyniadau

  1. Gwerthuso elw ar fuddsoddiad mewn technoleg – Offer awtomatig i ganfod arwyddion gofyn tarw

Tabl 1. Costau buddsoddi mewn coleri gwartheg

Eitem

Nifer / cyfradd

Cost (£)

Coleri canfod gweithgarwch gofyn tarw

185 o wartheg @ £110 fesul coler

£20,350

Gorsaf

Cost untro

£3,500

Cyfanswm y buddsoddiad

 

£23,850

Ystyriaethau perfformiad (yn seiliedig ar ffigurau 2024 a ffigurau disgwyliedig gwell yn 2025)

  • Cyfradd lloia 6-wythnos: 81% (eisoes yn uchel)
  • Cyfradd wag: 13%
  • Perfformiad presennol yn awgrymu mai ychydig iawn o welliannau y byddai modd eu cyflawni drwy fuddsoddi mewn coleri
  • Budd o safbwynt monitro iechyd: prinder data hyd yn hyn i awgrymu buddion – nid oedd modd cynnwys mewn dadansoddiad elw ar fuddsoddiad
  • Arbediad llafur:
    • Potensial i leihau’r gwaith odro i un unigolyn yn ystod y cyfnod bridio
    • Byddai’n lleihau’r baich ar Rhodri/Sion yn ystod y cyfnod bridio (e.e. nid oes angen rhywun i gadw golwg ar y gwartheg drwy’r amser)
    • Mae angen bod yn ofalus o ran yr union arbedion llafur – bydd hyn yn cael ei gyfyngu i’r cyfnod bridio.

Tabl 2. Amcan o’r arbedion ar gyfer coleri gwartheg

Math o arbediad

Rhagdybiaeth

Gwerth (£)

Llafur (1 awr y dydd x 12 wythnos)

84 awr @ £20/awr

£1,680 y flwyddyn

Cyfanswm arbediad bras

 

£1680 y flwyddyn

Tabl 3. Amcan o’r elw ar fuddsoddiad mewn coleri gwartheg

Cyfanswm y buddsoddiad

£23,850

Cyfanswm yr arbediad fesul blwyddyn

£1,680

Amcan o’r elw ar fuddsoddiad

14 mlynedd

  • Gallai arbediad ychwanegol mewn llafur drwy leihau i un unigolyn drwy gydol y cyfnod bridio gynyddu’r elw ar fuddsoddiad
  • Gallai cymorth grant hefyd gael effaith sylweddol

Sylw: Cyfnod ad-dalu hir, gwerth ychwanegol cyfyngedig o ganlyniad i linell sylfaen gadarn o ran ffrwythlondeb. Mae’r elw ar fuddsoddiad yn gymharol fach, ond gallai buddion anghyffyrddadwy (e.e. tawelwch meddwl, hyblygrwydd gyda llwyth gwaith) fod yn berthnasol.

Gwerthusiad o elw ar fuddsoddiad mewn technoleg – Offer bwydo lloi awtomatig

Tabl 4.  Costau buddsoddi mewn offer bwydo lloi awtomatig 

Eitem

Amcangyfrif

Cost (£)

Offer bwydo lloi gyda dwy orsaf

Amcan bris unigol

£11,000

Ystyriaethau perfformiad

  • Gosodiad yr ardal fagu lloi yn dda – dylai fod yn hawdd integreiddio’r offer bwydo
  • Amcangyfrifir y bydd angen dwy orsaf yn seiliedig ar yr angen i gadw o leiaf 45 o loi benyw bob blwyddyn
  • Ni fydd yn effeithio’n sylweddol ar berfformiad nac iechyd lloi
  • Arbediad llafur:
    • Gwelwyd ei fod yn ychwanegu hyblygrwydd (e.e. nid oes angen bwydo’r lloi ar unwaith ar ôl godro yn y bore na gyda’r nos)
    • Mae’n bosibl y bydd angen cadw lloi dan do ar laeth am gyfnod hwy – gall hyn ymestyn hyd y cyfnod magu lloi
    • Effeithiau cadarnhaol o ran arbed amser. Mae’r tabl isod yn dangos eu heffaith ar gyfer Chwefror, Mawrth ac Ebrill ar sampl o ffermydd yn Iwerddon sydd wedi cyflwyno’r dechnoleg (mae angen gofal gyda hyn gan y byddai rhai o’r ffermydd hyn wedi profi newidiadau mawr o ran cyfleusterau’r lloi).
       

Tabl 5. % o wahaniaethau llafur rhwng ffermydd sydd wedi cyflwyno offer bwydo lloi awtomatig o’i gymharu â’r rhai sydd heb wneud hynny ar ffermydd prosiect Teagasc yn Iwerddon

 

Ffermydd sydd wedi cyflwyno offer bwydo lloi awtomatig (n=8)

Ffermydd sydd heb gyflwyno offer bwydo lloi awtomatig (n=49)

 

2019

2021

% y gwahaniaeth

2019

2021

% y gwahaniaeth

Maint y fuches

141

160

13.4%

145

160

9.9%

Mewnbwn llafur i ofalu am y lloi (oriau)

242

203

-16.4%

245

276

12.8%

Effeithlonrwydd llafur gofalu am y lloi (oriau fesul buwch)

1.7

1.4

-20.8%

1.8

1.8

1.4%

  • Rhagdybir gwelliant o 20% o ran effeithlonrwydd llafur - mae angen bod yn ofalus,  gan y dylai cyfleusterau lloi presennol Penyparc ganiatáu ar gyfer rheolaeth gymharol effeithlon
  • Amcangyfrifir bod mewnbwn llafur i ofalu am fferm gyda 185 o wartheg yn 367 awr (yn seiliedig ar ddata o Iwerddon). Mae’r tabl isod yn dangos amcangyfrif o’r arbedion posibl. Noder: yn seiliedig ar ddata bras o ffermydd gyda buchesi/cyfleusterau tebyg o ran maint, ac nid ar ddata gwirioneddol oddi ar fferm Penyparc. 

Tabl 6. Arbediad llafur posibl gydag offer bwydo lloi awtomatig

 

Ffermydd ar raddfa debyg i fferm Penyparc

Enillion posibl @21% gwelliant o ran effeithlonrwydd

Arbediad amser (oriau)

Gwerth @ £20/ fesul awr

Maint y fuches

185

185

  

Mewnbwn llafur i ofalu am y lloi (oriau)

367

291

76 awr

1,525

Effeithlonrwydd llafur gofalu am y lloi (oriau fesul buwch)

2

1.6

  

Tabl 7. Amcangyfrif o’r arbedion ariannol ar gyfer offer bwydo lloi awtomatig

Math o arbediad

Rhagdybiaeth

Gwerth (£)

Llafur

76 awr wedi’i arbed × £20/awr

£1,525 y flwyddyn

Cyfanswm bras o’r arbediad

 

£1,525 y flwyddyn

Tabl 8. Amcangyfrif o’r elw ar fuddsoddiad mewn offer bwydo lloi awtomatig

Cyfanswm y buddsoddiad

£11,000

Cyfanswm yr arbediad bras fesul blwyddyn

£1,525

Amcangyfrif o’r elw ar fuddsoddiad

7.2 mlynedd

  • Bydd yn cynnig buddion ychwanegol o ran hyblygrwydd
  • Bydd yn arbed amser yn ystod cyfnod brig y gwanwyn – mae gwerth llafur @£20 yr awr yn ddibynnol ar ba mor anodd neu hawdd y gellir dod o hyd i weithwyr
  • Gallai cymorth grant hefyd gynnig effaith sylweddol

Sylw: Gwell cyfnod ad-dalu. Mae buddsoddiad cychwynnol is yn help mawr – gall hyn amrywio gan ddibynnu ar y darparwyr gwasanaeth sydd ar gael. Mae arbedion llafur yn fwy eglur ac mae hefyd yn gwella hyblygrwydd wrth loia. Mae angen bod yn ofalus gan fod y cyfleusterau eisoes yn dda, ac mae’n debygol y bydd angen i’r lloi gael eu cadw dan do am gyfnod hwy.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

Dylid ystyried blaenoriaethau buddsoddi ar y fferm gyda’r matrics a amlinellir yn Ffigur 1.
 


Ffigur 1. Blaenoriaethau o ran buddsoddi ar y fferm

Er mwyn sicrhau’r elw gorau, mae’n bwysig bod buddsoddiadau’n cael eu gwneud mewn trefn sydd wedi’i chynllunio ymlaen llaw, gan flaenoriaethu meysydd sy’n cynnig y budd gorau yn y lle cyntaf. Yn seiliedig ar waith ymchwil, argymhellir y drefn fuddsoddi ganlynol:

  1. Isadeiledd pori - mae gwelliannau o ran ffrwythlondeb y pridd, ail-hadu ac isadeiledd ffyrdd yn gymharol rad ac yn darparu elw economaidd cyflym a sylweddol.
  2. Datblygu cyfleusterau – gan fod godro’n gyfrifol am y gyfran fwyaf o amser gweithio ar ffermydd llaeth (oddeutu 33%), dylid blaenoriaethu cyfleusterau godro i leihau amser godro. Mae gwell systemau trin anifeiliaid a chyfleusterau storio slyri hefyd yn gallu gwneud ffermydd yn fwy diogel ac effeithlon.
  3. Technolegau awtomeiddio - gall dyfeisiau arloesol megis offer bwydo lloi awtomatig, giatiau dyrannu, offer tynnu clystyrau, golchi a rhyddhau awtomatig, a thechnolegau awtomatig i ganfod arwyddion gofyn tarw arwain at ostyngiad pellach mewn llwyth gwaith o ddydd i ddydd. Mae’n bosibl na fydd rhai technolegau awtomeiddio yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn amser llafur cyffredinol, ond maen nhw’n gallu cynnig mwy o hyblygrwydd a symleiddio tasgau arferol.

Bydd gwahanol ffermydd ar gamau gwahanol yn eu datblygiad, a bydd rhai buddsoddiadau’n darparu gwell elw neu’n fwy buddiol gan ddibynnu ar ofynion y ffermwr.

Os hoffech gopi o’r adroddiad llawn, cysylltwch â: timtechnegolcff@mentera.cymru